Y Niwl
Band o Gymru ydy'r Niwl, a sefydlwyd yn 2009, sy'n chwarae cerddoriaeth offerynnol sydd wedi ei ysbrydoli gan roc yr 1960au ac sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "roc syrffio".[1] Aelodau'r band yw Alun Evans (gitâr), Llyr Pari (drymiau), Sion Glyn (gitâr fas) a Gruff ab Arwel (organ a gitâr).
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dod i'r brig | 2009 |
Dechrau/Sefydlu | 2009 |
Genre | roc amgen, surf music |
Yn cynnwys | Alun Tan Lan |
Ers 2009, maent wedi perfformio yng ngŵyl Green Man a Sŵn.[2][3]
Gyrfa
golyguRhyddhawyd albwm gyntaf y band, Y Niwl, ar 29 Tachwedd 2010 ar label Aderyn Papur. Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Bryn Derwen, a'i mastro gan David Wrench. Mae pob un o ganeuon yr albwm wedi'u henwi ar ôl rhif, ond nid yw'r rhifau hyn yn adlewyrchu trefn y caneuon.
Yn canolbwyntio ar yr offerynnol yn unig, roedd yr albwm yn llwyddiant ysgubol gyda'r band yn perfformio mewn nifer o gigs proffil uchel (yn cefnogi Gruff Rhys ar sawl achlysur). Cawsant lwyfan hefyd mewn Gwyliau o bwys fel Latitude, Sŵn a'r Green Man. Mae'r ffaith nad ydynt yn canu mewn iaith penodol yn sicr wedi estyn apel y band i gynulleidfa dipyn ehangach na'r arferol i fand Cymraeg.
Cafodd yr albwm ei greu yn defnyddio hen dechnegau recordio i sichrau dilysrwydd cyfnod cerddoriaeth 'syrff' gyda'r peiriannydd uchel ei barch, David Wrench, (British Sea Power, Hot Chip ac eraill), yn cynhyrchu.
Enwebwyd Y Niwl fel Albwm yr Wythnos gan The Sunday Times ar 2 Ionawr 2011, a derbyniodd 7/10 mewn adolygiadau gan Droned in Sound NME.
Ym mis Mai 2011 cyhoeddodd y band sengl newydd, Undegsaith/Undegchwech. Yn yr un flwyddyn, enillodd Y Niwl Wobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am y Band Byw gorau, yn dilyn llwyddiant yng Nghwobrau RAP 2010, pan enillodd Y Niwl Wobr 'y band a ddaeth i amlygrwydd'.
Hefyd yn 2011, defnyddiodd y rhaglen deledu, Football Focus y gân Undegpedwar fel ei cherddoriaeth thema.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwWoM
- ↑ Y NIWL. Sŵn. Adalwyd ar 2 Medi 2011.
- ↑ ARTIST PROFILE: Y NIWL. Green Man Festival. Adalwyd ar 2 Medi 2011.