Alva Adams
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau oedd Alva Adams (14 Mai, 1850 – 1 Tachwedd, 1922). Fe'i ganed yn Adamsville, Wisconsin.[1] Roedd John Adams, ei dad, yn aelod o Gynulliad Talaith Wisconsin a Senedd Talaith Wisconsin. Gwasanaethodd am bedair blynedd a deufis fel pumed, degfed a 14eg Llywodraethwr Colorado rhwng 1887 a 1889, 1897 i 1899, ac am gyfnod fer ym 1905. Parhaodd ei gyfnod olaf fel Llywodraethwr ychydig dros ddau fis. Cyhoeddodd ef a'r Llywodraethwr blaenorol James Peabody ei gilydd yn Llywodraethwr anghyfreithlon, er bod y ddau wedi cyflawni arferion etholiadol anghyfreithlon. Yn y pen draw, diswyddodd y ddeddfwrfa Weriniaethol Adams, gan roi y swydd i Peabody. Ymddiswyddodd Peabody ar unwaith o blaid ei Is-lywodraethwr Jesse Fuller McDonald, a daeth y mater i ben.
Alva Adams | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mai 1850 Iowa County |
Bu farw | 1 Tachwedd 1922 Battle Creek |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Llywodraethwr Colorado, Llywodraethwr Colorado, Llywodraethwr Colorado, Colorado General Assembly |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | John Adams |
Plant | Alva B. Adams |
llofnod | |
Bu farw Adams yn Battle Creek, Michigan yn 72 mlwydd oed.[1]
Mae Adams County, Colorado, wedi’i henwi er anrhydedd i Alva Adams, a chredir bod dinas Alva, Oklahoma wedi ei henwi ar ei ôl hefyd. Gwasanaethodd brawd iau Alva Adams, William Herbert "Billy" Adams hefyd fel Llywodraethwr Colorado rhwng 1927 a 1933. Gwasanaethodd mab Alva Adams, Alva Blanchard Adams, fel Seneddwr yr Unol Daleithiau o Colorado rhwng 1923 a 1925 ac o 1933 i 1941
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Alva Adams, Former Dane County Man, Dies in West [sic]". Wisconsin State Journal. November 7, 1922. t. 7. Cyrchwyd 12 Mai 2018 – drwy Newspapers.com.