Alys Thomas
Nofiwr o Gymru yw Alys Thomas (ganwyd 10 Hydref 1990). Fe'i ganwyd yn Isleworth, Llundain i fam o Loegr a thad o Gymru.[1] Cychwynodd nofio pan oedd yn faban ac ymunodd â chlwb nofio Kingston Royals yn 5 oed[2].
Alys Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1990 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | nofiwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Wedi cwblhau ei harholiadau Safon Uwch yn 2008, symudodd i Abertawe i ymuno â'r Ganolfan Berfformiad ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ac arhosodd yna ers hynny. Graddiodd yn 2015 â gradd mewn Seicoleg. Mae'n cystadlu dros Gymru a gwledydd Prydain.
Cystadlodd yn y gamp 100m dull pili-pala ym Mhencampwriaethau Mabolgampau Dŵr y Byd 2017.[3][4]
Yng Nghemau'r Gymanwlad 2018, enillodd fedal aur cyntaf Cymru yn y pwll, gan ennill y 200m dull pili-pala mewn amser o 2:05.45.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alys Thomas. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 14 Ebrill 2018.
- ↑ Alys Thomas Biography.
- ↑ "Heats results". FINA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-26. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.
- ↑ "2017 World Aquatics Championships > Search via Athletes". Budapest 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-02. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.
- ↑ Tair aur, dwy arian ac efydd arall i Gymru yn y Gemau , BBC Cymru Fyw, 9 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2018.