Amanullah Khan
Amanullah Khan (28 Chwefror, 1892 - 25 Ebrill, 1960) oedd rheolwr Affganistan o 1919 hyd 1929.
Amanullah Khan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Mehefin 1892 ![]() Paghman ![]() |
Bu farw | 25 Ebrill 1960 ![]() Zürich ![]() |
Dinasyddiaeth | Affganistan ![]() |
Galwedigaeth | teyrn, brenin ![]() |
Swydd | King of Afghanistan ![]() |
Rhagflaenydd | Nasrullah Khan ![]() |
Tad | Habibullah Khan ![]() |
Priod | Soraya Tarzi ![]() |
Llinach | Barakzai dynasty ![]() |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd y Sbardyn Aur, Cadwen Frenhinol Victoria ![]() |
Roedd yn llywodraethwr Kabul pan laddwyd ei dad Habibullah Khan gan asasin yn 1919. Esgynodd i'r orsedd fel Emir y wlad ac arweiniodd ryfel ysbeidiol yn erbyn y llywodraeth Brydeinig India (1919 - 1922) a arweiniodd at Gytundeb Rawalpindi yn 1922 a chydnabod annibyniaeth Affganistan gan Brydain. Cymerodd y teitl 'brenin Affganistan' yn 1926.
Dechreuodd raglen o ddiwygiadau ar linellau Gorllewinol ond enynnai hyn ddicter ceidwadwyr crefyddol a dorrodd allan yn wrthryfel agored yn 1928 pan ddychwelodd Amanullah o daith estynedig yn Ewrop. Ffoes y wlad yn Ionawr 1929 a bu byw mewn alltudiaeth yn Rhufain hyd ei farwolaeth yn 1960. Ei olynydd oedd Mohammed Nadir Shah.
O'i flaen : Habibullah Khan |
Emiriaid Affganistan Amanullah Khan |
Olynydd : Mohammed Nadir Shah |