Habibullah Khan (3 Mehefin 187220 Chwefror, 1919) oedd brenin Affganistan o 1901 hyd ei farwolaeth yn 1919. Cafodd ei eni yn Tashkent, Wsbecistan, yn fab hynaf yr Emir Abdur Rahman Khan. Dilynodd ei dad i'r orsedd yn Hydref 1901.

Habibullah Khan
Ganwyd3 Mehefin 1872, 1872 Edit this on Wikidata
Tashkent, Samarcand Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1919, 1919 Edit this on Wikidata
Affganistan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAffganistan Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddEmir of Afghanistan Edit this on Wikidata
TadAbdur Rahman Khan Edit this on Wikidata
PlantInayatullah Khan, Amanullah Khan Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr Edit this on Wikidata

Roedd Habibullah yn frenin cymharol seciwlar, rhyddfrydol, a geisiai ddiwygio bywyd ei wlad, e.e. trwy gyflwyno meddygaeth Orllewinol. Sefydlodd ysgolion, moderneiddiodd y fyddin a cheisiodd ddiwygio'r gyfraith.

Cadwodd Affganistan yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan anwybyddu galwadau gan swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid (Twrci), a ystyrid gan rai yn arweinydd crefyddol Islam, i gael y wlad i ymuno yn y rhyfel. Gwellodd perthynas ei wlad â'r India Brydeinig drwy arwyddo cytundeb heddwch yn 1905 ac ymweld â'r wlad yn 1907.

Cafodd ei asasineiddo tra ar daith hela ym mryniau Kalagosh ar Chwefror 20, 1919. Fe'i olynwyd gan ei fab Amanullah Khan

O'i flaen :
Abdur Rahman Khan
Emiriaid Affganistan
Habibullah Khan
Olynydd :
Amanullah Khan