Emrys Sant

sant o'r 4c
(Ailgyfeiriad o Ambrosius)

Roedd Emrys Sant (Lladin: Aurelius Ambrosius c. 340 – 4 Ebrill 397) yn gyffeswr, yn ddoethor eglwysig ac yn esgob catholig Milan rhwng 374 a 397. Roedd yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn yr eglwys drwy Ewrop yn y 4c. Roedd yn raglaw-ynad (praefectus consularis) o arfordir Liguria ac ardal Emilia yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel 'yr Eidal'. Yn Milan roedd ei bencadlys, cyn ei ordeinio'n annisgwyl yn esgob yn 374. Gwrthwynebai Ariaeth, neu Ariadaeth, i'r carn; sef gredo fod Iesu Grist yn fab Duw ac a grewyd ganddo. Cyhuddwyd Emrys o erlid Ariaethwyr, Iddewon a phaganiaidd.[1]

Emrys Sant
Ganwydc. 339 Edit this on Wikidata
Trier, Augusta Treverorum Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 397 Edit this on Wikidata
Milan, Mediolanum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athronydd, diwinydd, offeiriad Catholig, gwleidydd, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddllywodraethwr Rhufeinig, Archesgob Milan, esgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Rhagfyr, 20 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadAurelius Ambrosius Edit this on Wikidata

Dywed traddodiad iddo hyrwyddo "llafarganu atepganiadol" ble adleisir un ochr y côr gan yr ochr arall, bob yn ail. Honnir hefyd iddo gyfansoddi Veni redemptor gentium, un o emynau'r Adfent.

Fe'i ganwyd yng Ngallia Belgica (yr Almaen heddiw) a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yr adeg honno. Mae'n bosibl mai ei dad oedd Aurelius Ambrosius.[2] Mae Emrys yn nodedig am ei ddylanwad ar Awstin o Hippo ac am esgymuno'r ymherawdwr Theodosius ar ôl cyflafan mawr yn Thessalonica.

Mae'r Eglwys yn dathlu ei wyl ar y 7fed Rhagfyr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Wilken, Robert (2003), The Spirit of Early Christian Thought, New Haven: Yale University Press, p. 218
  2. Greenslade, Stanley Lawrence (1956), Early Latin theology: selections from Tertullian, Cyprian, Ambrose, and Jerome, Library of Christian classics, 5, Westminster: John Knox Press, p. 175