Gallia Belgica
Roedd talaith Rufeinig Gallia Belgica (yn llythr. ‘Gâl Felgig’) yn cynnwys y tiriogaethau sydd nawr yn rhan ddeheuol Yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, gogledd-ddwyrain Ffrainc a rhan o orllewin Yr Almaen. Roedd y trigolion, y Belgae, yn gymysgedd o Geltiaid a llwythau Almaenaidd.
Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Belgae |
Prifddinas | Reims, Trier |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Roman Gaul, yr Ymerodraeth Rufeinig |
Sir | Diocese of Gaul |
Gwlad | Rhufain hynafol, yr Ymerodraeth Alaidd, Rhufain hynafol, Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin |
Cyfesurynnau | 50.85289°N 4.346548°E |
Gorchfygwyd y Belgae gan Iŵl Cesar yn ystod ei ryfeloedd yng Ngâl. Yn 27 CC rhannodd yr ymerawdwr Augustus y tiriogaethau i'r gogledd o'r Alpau yn dair talaith: Gallia Aquitania, Gallia Lugdunensis, a Gallia Belgica.
Yn 17 CC gorchfygwyd rhaglaw y dalaith, Marcus Lollius, gan y Sugambres a chipiwyd eryr y bumed lleng Alaudae. Gyrrodd Augustus Tiberius a Drusus i Germania, ac wedi iddynt orchfygu'r llwythau Almaenaidd crewyd dwy dalaith filitaraidd ar lan orllewinol Afon Rhein i amddiffyn Gallia Belgica. Daeth y rhain yn daleithiau Germania Inferior a Germania Superior. Enillodd talaith Gallia Belgica diriogaeth oddi wrth Gallia Lugdunensis, a daeth Rheims yn brifddinas.
Rhwng 268 a 278 torrodd y llwythi Almaenaidd dros y ffin i ysbeilio Gâl, ond yn 278 llwyddodd yr ymerawdwr Probus i ail-sefydlu'r ffin. Erbyn y 5g nid oedd Gallia Belgica dan lywodraeth Rhufain, a daeth yn rhan o deyrnas y Merofingiaid. Yn yr 8g, y dalaith hon oedd calon ymerodraeth Siarlymaen.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |