Americaneiddio
Term a ddefnyddir i ddisgrifio'r dylanwad sydd gan Unol Daleithiau America ar ddiwylliannau gwledydd eraill yw Americaneiddio. Mae busnesau a brandiau Americanaidd i'w cael ar draws y byd o ganlyniad i draddodiad cyfalafol yr Unol Daleithiau sydd yn hybu masnach rydd, globaleiddio, a'r cwmni amlwladol. Mae cyfryngau Americanaidd, gan gynnwys cerddoriaeth boblogaidd, rhaglenni teledu, a ffilmiau Hollywood, wedi ymledu nid yn unig i weddill y Saesneg ond ar draws yr holl fyd. Modd o imperialaeth ddiwylliannol neu neowladychiaeth yw Americaneiddio yn ôl rhai, ac mae rhai yn ei weld yn danwydd i wrth-Americaniaeth.
Math | Cymhathiad diwylliannol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |