De Ewrop
Defnyddir y term De Ewrop i gyfeirio at yr holl wledydd yn ne Ewrop. Fodd bynnag, ar adegau gwahanol mae'r cysyniad o dde Ewrop wedi amrywio yn seiliedig ar gyd-destunau gwleidyddol, ieithyddol a diwylliannol yn ogystal ag elfennau megis daearyddiaeth neu hinsawdd. Mae'r mwyafrif o wledydd arfordirol yn ffinio â Môr y Canoldir. Yr eithriadau yw Portiwgal sydd ar fôr yr Iwerydd, Serbia a Gweriniaeth Macedonia sydd wedi'u hamgylchynu gan dir a Bwlgaria sy'n ffinio â'r Môr Du.
Diffiniad daearyddol
golyguYn ddaearyddol, de Ewrop yw hanner deheuol tir Ewrop. Mae'r diffiniad hwn fodd bynnag yn gymharol, heb ffiniau clir. Mae mynyddoedd yr Alpau a'r Massif Central yn creu ffin ffisegol rhwng yr Eidal a Ffrainc a gweddill Ewrop.
Yn ddaearyddol, ystyrir y gwledydd canlynol yn rhan o dde Ewrop:
- Andorra
- Portiwgal (yn cynnwys: Madeira ac Azores)
- Sbaen (yn cynnwys: Ynysoedd Balearig)
- Gibraltar (tir Prydeinig tramor)
- Yr Eidal (yn cynnwys: Sardinia a Sisili)
- San Marino
- Dinas y Fatican
- Albania
- Bosnia a Hercegovina
- Bwlgaria
- Croatia (o dan Sava a Kupa)
- Groeg (yn cynnwys: Ynysoedd Aegean, Crete, a'r Ynysoedd Ionaidd)
- Montenegro
- Serbia (o dan Sava a'r Danube)
- Gogledd Macedonia
- Cosofo
- Twrci (yn cynnwys: Dwyrain Thrace)
Eraill
golygu- Croatia (weithiau ystyrir ardaloedd gogleddol (Slavonia, Zagreb, Međimurje a Zagorje) fel Canol Ewrop)
- Cyprus (yn ddaearyddol yn rhan o Asia ond fe'i ystyrir yn Ewropeaidd am resymau hanesyddol a diwylliannol)
- Malta (yn cynnwys: Gozo)
- Rwmania (ystyrir Northern Dobruja yn ne Ewrop ac weithiau Wallachia. Weithiau ystyrir Transylvania fel rhan o Ganol Ewrop)
- Serbia (weithiau ystyrir y rhannau gogleddol o (Vojvodina, ogledd Belgrade, ardal Mačva) yn rhan o Ganol Ewrop)
- Slofenia (ardal o Primorska)