Amy Goodman
Newyddiadurwraig ac awdures o'r Unol Daleithiau yw Amy Goodman (ganwyd 13 Ebrill 1957). Hi yw gwesteiwraig Democracy Now!, rhaglen newyddion byd-eang annibynnol a ddarlledir yn ddyddiol ar y radio, y teledu a'r rhyngrwyd.
Amy Goodman | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1957 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | colofnydd, cynhyrchydd radio, investigative journalist, llenor, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr |
Adnabyddus am | Democracy Now!, Access of Evil, The Exception to the Rulers, Static: Government Liars, Media Cheerleaders, and the People who Fight Back, Standing up to the Madness: Ordinary Heroes in Extraordinary Times, Breaking the Sound Barrier, The Silenced Majority: Stories of Uprisings, Occupations, Resistance, and Hope, One Bright Shining Moment: The Forgotten Summer of George McGovern, Democracy Now!: Twenty Years Covering the Movements Changing America |
Gwobr/au | Gwobr Orwell, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr George Polk, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr EFF, Gwobr Thomas Merton, Gwobr Hall of Fame I. F. Stone, Joe A. Callaway Award for Civic Courage, James Aronson Award |
Ganwyd Goodman yn Bay Shore (Efrog Newydd)[1] ar 13 Ebrill 1957 i George, offthalmolegydd, a Dorothy (gynt Bock) Goodman.[2] Magwyd mewn cartref Iddewig, ac roedd ei thaid o ochr ei mam yn Rabbi Uniongred.[3] Graddiodd o Bay Shore High School yn 1975, ac o Radcliffe College yn 1984 gyda gradd mewn anthropoleg.[4] Treuliodd Goodman flwyddyn yn y College of the Atlantic yn Bar Harbor (Maine).[5]
Democracy Now!
golygu- Prif: Democracy Now!
Roedd Goodman wedi bod yn gyfarwyddwraig (director) gorsaf Pacifica Radio WBAI yn Ninas Efrog Newydd am fwy na degawd pan gyd-sefydlodd Democracy Now! The War and Peace Report yn 1996.
Yn 2001, tynnwyd y rhaglen oddi ar yr awyr, oherwydd croesdynnu rhwng grŵp o aelodau bwrdd Pacifica Radio ac aelodau staff a gwrandawyr. Yn ystod yr adeg honno, symudwyd Democracy Now! i orsaf dân, o ble y darlledodd hyd at y 13 Tachwedd 2009.[6] Lleolir stiwdio newydd y rhaglen yng ymyl Chelsea ym Manhattan.[7]
Mae Goodman yn credydu (credit) llwyddiant Democracy Now! i sefydliadau'r cyfryngau prif ffrwd sy'n gadael "bwlch anferth"[8] i'r rhaglen.[9]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Peace Correspondent: 'Democracy Now!' Host Amy Goodman Is Making Her Voice Heard on Iraq Archifwyd 2008-09-14 yn y Peiriant Wayback gan Michael Powell, Washington Post, 10 Mawrth 2003
- ↑ "Dorothy Goodman Obituary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-08. Cyrchwyd 2012-09-23.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-12. Cyrchwyd 2012-09-23.
- ↑ Lamb, Brian (6 Gorffennaf 2004). "The Exception to the Rulers". Booknotes. C-SPAn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-21. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2011.
- ↑ "Amy Goodman To Speak At COA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 2012-09-23.
- ↑ Block, Jennifer. "A Dose of Democracy, Now: WBAI Listeners Get Their Station Back". Village Voice.
- ↑ Andy Worthington Archive for November, 2009
- ↑ "a huge niche"
- ↑ Ratner, Lizzy (23 Mai 2005). "Amy Goodman's 'Empire'". The Nation. http://www.thenation.com/doc/20050523/ratner.