Anatidae

teulu o adar

Y teulu o adar sy'n cynnwys elyrch, gwyddau a hwyaid yw Anatidae. Mae'n cynnwys mwy na 160 o rywogaethau a geir mewn gwlyptiroedd ledled y byd ac eithrio Antarctica. Maent yn bwydo ar amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid megis pysgod, molysgiaid a chramenogion. Maent yn adar eitha mawr sy'n amrywio o 30 i 150 cm o ran maint. Mae ganddynt draed gweog, gwddf hir a phig wastad.

Anatidae
Enghraifft o:tacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonteulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAnatoidea Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau

golygu
  • The New Encyclopedia of Birds, gol. Christopher Perrins (Rhydychen: Oxford University Press, 2004)
  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.