Hwyaden wyllt
rhywogaeth (adar)
Hwyaden Wyllt | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Anas |
Rhywogaeth: | A. platyrhynchos |
Enw deuenwol | |
Anas platyrhynchos Linnaeus, 1758 |
Mae'r Hwyaden Wyllt, Anas platyrhynchos, yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin trwy rannau helaeth o'r byd, yn Ewrop, Asia a Gogledd America.
Mae'r hwyaden yma rhwng 56 a 65 cm o led ac 81–98 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn oer, mae'n aderyn mudol.
Aderyn lliwgar iawn yw'r ceiliog yn ei blu nythu, gyda pen gwyrdd a darn glas ar yr adenydd. Mae'r ieir yn liw brown yn bennaf, ond maent hefyd yn dangos y darn glas ar yr adenydd. Gall nythu ar lannau afonydd, llynnoedd neu byllau llai; ac yn aml mae'n nythu ar lynnoedd bychain mewn parciau cyhoeddus ac yn dod yn ddof. Yn y gaeaf mae'n ymgasglu'n heidiau. Gall fyw yn eithaf hen - mae cofnod o Hwyaden Wyllt yn byw am 29 mlynedd.