Anchor, Swydd Amwythig
pentref yn Swydd Amwythig
Pentref bychan yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Anchor.[1] Fe'i lleolir ar y ffordd B4368 bron am y ffin rhwng Cymru (Powys) a Lloegr. Dyma'r pentref mwyaf gorllewinol yn Swydd Amwythig. Mae'n agosach i'r Drenewydd ym Mhowys na'r dref agosaf yn Swydd Amwythig, sef Clun.
Math | pentrefan |
---|---|
Ardal weinyddol | Betws-y-crwyn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.4576°N 3.2156°W |
Cod OS | SO175851 |
Gorwedd tarddle Afon Clun ger Anchor yn Ffos y Rhes (Foss y Rhess), ger y ffin. Mae Dyffryn Clun yn ardal wledig iawn sy'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig. Tueddir i gyfeirio at yr afon wrth ffurf Saesneg ei henw, ond Afon Colunwy oedd yr enw Cymraeg gwreiddiol. Enwyd cantref canoloesol Colunwy ar ôl yr afon a cheir Fforest Clun hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020