Colunwy
Yn yr Oesoedd Canol, arglwyddiaeth yn Swydd Amwythig wrth y ffin â Chymru oedd Colunwy (Saesneg: Clun). Cyn hynny bu'n rhan o hen deyrnas Powys, efallai fel cwmwd yn y deyrnas honno.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y Mers, Teyrnas Powys |
Sir | Teyrnas Powys, Swydd Amwythig |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Tefeidiad |
Yn ffinio gyda | Ceri, Maelienydd |
Cyfesurynnau | 52.4214°N 3.0297°W |
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu Colunwy yn rhan o Bowys ar adeg pan roedd y deyrnas honno yn cynnwys rhan sylweddol o'r Swydd Amwythig ddiweddarach a rhan o Swydd Henffordd. Arhosodd yn ardal Gymraeg ei hiaith am ganrifoedd.
Gorweddai Colunwy yn ne-orllewin Swydd Amwythig, yn nhiriogaeth arglwyddi Normanaidd y Mers. Ffiniai'r arglwyddiaeth strategol â chymydau Ceri a Maelienydd yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, i'r gorllewin yng nghanolbarth Cymru, a rhan o Swydd Henffordd i'r de. Llifa afon Tefeidiad trwy'r diriogaeth. Un o'r prif ganolfannau oedd tref Clun, lle ceir castell Normanaidd.
Llwyddodd Llywelyn ap Gruffudd i adennill rhan orllewinol Colunwy o ddwylo'r Eing-Normaniaid yn 1263 yn ei ymgyrch i sefydlu ei awdurdod yn ardal Trefaldwyn.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 133-4.