Andrea Hinwood

prif wyddonydd UNEP (yn 2023)

Mae Andrea Hinwood yn wyddonydd amgylcheddol ac yn arbenigwr ar effaith yr amgylchedd ar iechyd dynol. Yn 2023 hi oedd Prif Wyddonydd Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) ac mae'n lladmerydd dros ymchwil academaidd ar drwydded agored.[1]

Andrea Hinwood
Ganwyd20 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Prifysgol Edith Cowan
  • Prifysgol Monash Edit this on Wikidata
Galwedigaethenvironmental scientist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Environment Protection Authority Victoria
  • Prifysgol Edith Cowan
  • Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata

Yn ystod ei PhD ym Mhrifysgol Monash, Melbourne (Awstralia), bu'n arweinydd grwpiau technegol a gwyddonol, yn ymgynghorydd i'r llywodraeth ac yn aelod o nifer o sefydliadau amgylcheddol.

Un o'r prif faterion a godwyd gan Dr Hinwood yw Mynediad Agored ar gyfer ymchwil. Nododd, "dylai gwledydd tlotach gael llawer mwy o Fynediad Agored ar gyfer ymchwil academaidd, oherwydd eu bod yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau newid hinsawdd ac felly mae nhw angen y dechnoleg ddiweddaraf neu atebion eraill i geisio cyfyngu ar yr effeithiau".[2]

Cyn gweithio yn UNEP, gwasanaethodd Andrea fel prif wyddonydd amgylcheddol cyntaf Awdurdod Diogelu'r Amgylchedd yn Victoria, Awstralia. Mae ei gyrfa wedi cynnwys darparu cyngor strategol i'r llywodraeth ar amrywiaeth eang o faterion amgylcheddol, gan gynnwys sylweddau sy'n disbyddu'r osôn, ansawdd aer, rheoli tân a mwg, a halogion cemegol sy'n dod i'r amlwg.

Gwaith presennol golygu

Dr Andrea Hinwood yw Prif Wyddonydd Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) lle ceir 193 o aelod-wladwriaethau; mae gan bob un faterion a phroblemau unigryw ei hun o ran newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Yn grynno, mae Dr Hinwood yn disgrifio ei rôl fel un sy'n “cyfathrebu'n effeithiol i lunwyr polisi ymchwil gwyddonol, er mwyn gwella'r sefyllfa amgylcheddol”. Mae'n golygu bod llawer o'i hamser yn cael ei dreulio'n “cyfieithu gwyddoniaeth” gan ei hesbonio i'r bobl gyffredin sydd angen ei ddeall.

Pwysigrwydd ymchwil ar drwydded agored golygu

Dywedodd mewn cyfweliad i LERU[3]

Mae llawer o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom, yn enwedig erthyglau cyfnodolion, y tu ôl i waliau talu ar y we. Ac nid dim ond i ni. Mae angen inni gael y wybodaeth wyddonol hon i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau, ledled y byd, ac nid yw hynny'n digwydd o reidrwydd. Os ydym am i wledydd gael atebion cynaliadwy, mae'n rhaid iddynt allu dod o hyd iddynt a chael mynediad iddynt. Mae'n fater o ymddiriedaeth hefyd gan fod llawer iawn o wybodaeth anghywir amrywiol i'w gael, a'r unig ffordd i ddod dros hynny yw gwneud yn siŵr bod gwyddoniaeth yn agored, yn hygyrch ac yn dryloyw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfweliad o Hinwood; adalwyd 12 Mai 2023.
  2. researchaether.com; adalwyd 12 Mai 2023.
  3. www.leru.org; Archifwyd 2022-07-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 12 Mai 2023.