Andrea Leone Tottola
Roedd Andrea Leone Tottola (bu farw 15 Medi 1831) yn libretydd toreithiog o'r Eidal, sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Gaetano Donizetti a Gioachino Rossini.[1]
Andrea Leone Tottola | |
---|---|
Ganwyd | 18 g Napoli |
Bu farw | 15 Medi 1831 Napoli |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Galwedigaeth | libretydd, llenor, bardd |
Nid yw'n hysbys pryd na ble y cafodd ei eni. Daeth yn fardd swyddogol i'r theatrau brenhinol yn Napoli ac yn asiant i'r impresario Domenico Barbaia, a dechreuodd ysgrifennu libretos ym 1802.
Ail weithiwyd ei libreto ar gyfer Gabriella di Vergy, a osodwyd yn wreiddiol gan Michele Carafa ym 1816, gan Donizetti yn y 1820au a'r 1830au. Ysgrifennodd chwe libreto arall ar gyfer Donizetti, gan gynnwys y rhai ar gyfer La zingara (1822), Alfredo il grande (1823), Il castello di Kenilworth (1829) ac Imelda de 'Lambertazzi (1830).[2]
Ar gyfer Rossini ysgrifennodd Mosè in Egitto (1818), Ermione (1819), La donna del lago (1819) a Zelmira (1822).
Ar gyfer Vincenzo Bellini ysgrifennodd Adelson e Salvini (1825). Ymhlith y cyfansoddwyr eraill a osododd libretos Tottola i gerddoriaeth roedd Giovanni Pacini (Alessandro nelle Indie (1824) ac eraill), Saverio Mercadante, Johann Simon Mayr, Nicola Vaccai, Errico Petrella, Ferdinando Paer a Manuel Garcia.[3]
Bu farw Tottola yn Napoli.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhestr o libretos (gyda chyfansoddwyr) a ysgrifennwyd gan Tottola
- ↑ John Black, "Andrea Leone Tottola", The New Grove Dictionary of Opera, gol. Stanley Sadie (Llundain: Macmillan 1998)
- ↑ John Warrack ac Ewan West, The Oxford Dictionary of Opera (Rhydychen, 1992)