Andrea Mohr
Awdures o'r Almaen yw Andrea Mohr (ganwyd 19 Gorffennaf 1963) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur.
Andrea Mohr | |
---|---|
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1963 Neustadt an der Weinstraße |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Andrea Mohr yn Neustadt, Gorllewin Yr Almaen. Mynychodd Mohr ysgol gynradd yn Neustadt o 1969 hyd 1973. Bu hefyd yn mynychu'r Leibniz Gymnasium a'r ysgol nos Saesneg Inlingua in Mannheim. Cafodd gyfnod o astudio economeg (rhwng 1985-86) ym Mhrifysgol Ludwig Maximillan Munich, ac yna o 1986-89 astudiodd Siapanaeg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Rydd Berlin. Bu'n gweithio fel model a gwesteiwraig yn Berlin ac fel dawnswraig stri-bryfocio mewn cabaret.
Smyglo cyffuriau
golyguCyn iddi ddechrau ysgrifennu teithlyfrau bu'n gysylltiedig gyda chylch smyglo cyffuriau rhyngwladol a rhai gweithgareddau troseddol eraill. Fe'i dedfrydwyd i garchar yn 1999 a hynny mewn carchar diogelwch uchel ar gyfer merched yn Awstralia. Plediodd yn euog i fod yn gysylltiedig gyda mewnforio cocên i Awstralia, ynghyd â'i chyn- ŵr, Werner Roberts. Yn ystod ei chyfnod yn y carchr cwblhaodd gwrs dysgu o bell gyda Phrifysgol Swinnburne University of Technology, Melbourne ym maes newyddiaduraeth ac ysgrifennu creadigol.Fe'i rhyddhawyd yn 2004 a'i halltudio; y mae bellach wedi dychwelyd i'w thref enedigol.
Gyrfa fel awdur
golyguErs 2004 mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau - er enghraifft cyfres o lyfrau teithio yn seiliedig ar goginio i'r cyhoeddwr Umschau Buchverlag, Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pixie yn Saesneg yn 2009 gan Hardie Grant Books (gyda dyfyniad ar y clawr gan Howard Marks) ac yna yn Almaeneg yn 2011 gan dŷ cyhoeddi Egmont. Ysgrifennodd hefyd nifer o straeon byrion gyda dwy ohonynt yn ymddangos yn antholeg Howard Marks, Tripping. Yn 2010 dechreuodd gyflwyno ei darlleniadau aml-gyfrwng o dan y teitl This is not a striptease sy'n adrodd henes ei bywyd. Mae hi'n aelod gweithredol o Amnest Rhyngwladol ac yn ymladd dros amgylchiadau gwell o fewn y system garchardai.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ New drug squad corruption allegations theage.com.au