Andrew Burnham
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. |
Gwleidydd o Sais yw Andrew Murray "Andy" Burnham (ganwyd 7 Ionawr 1970), sydd wedi bod yn Faer Manceinion Fwyaf ers 2017. Mae'n chyn-Aelod o'r Tŷ'r Cyffredin dros etholaeth Leigh ym Manceinion Fwyaf. a chyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd.
Andrew Burnham | |
| |
Cyfnod yn y swydd 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 | |
Prif Weinidog | Gordon Brown |
---|---|
Rhagflaenydd | Alan Johnson |
Olynydd | Andrew Lansley |
Geni | 7 Ionawr 1970 Lerpwl, Glannau Merswy |
Etholaeth | Leigh |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Marie-France Van Heel |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Burnham yn Lerpwl; roedd ei dad yn beiriannwr ffôn a'i fam yn dderbynnydd. Cafodd ei fagu yn Culcheth, Warrington sydd yn rhan o'r etholaeth mae ef yn cynrychioli heddiw. Yn Newton-le-Willows derbyniodd ei addysg, yn ysgol uwchradd Catholig St Aelred. Aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg Fitzwilliam, Caergrawnt, gan ennill MA yn y pwnc. Mae Burnham yn honni iddo ymuno â'r Blaid Lafur yn 1984, pan oedd yn 14 mlwydd oed yn unig, yn ystod streic y glowyr. Ym 1994 cymerodd Burnham swydd fel ymchwiliwr i Tessa Jowell, Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a oedd yn weinidog yn yr Adran Iechyd, a pharhaodd gyda'r swydd wedi etholiad 1997. Ym 1998 cymerodd swydd fel ymgynghorwr arbennig i Chris Smith, Ysgrifennydd Gwladol dros Diwylliant, y Cyfryngau a Sbort. Dyma oedd ei swydd olaf cyn cael ei ethol i'r senedd.
Aelod Senedd y DU
golyguBu Burnham yn ymladd am sedd ar etholaeth Leigh[1], sedd ddiogel y blaid Llafur, yn etholiad cyffredinol 2001 wedi i Lawrence Cunliffe ymddeol. Enillodd Burnham fwyafrif o 16,362, a thraddododd ei araith gyntaf ar 4 Gorffennaf 2001. Rhwng 2001 a 2003 eisteddodd Burnham ar y pwyllgor Iechyd.
Yn y Llwyodraeth
golyguYn 2003 cafodd Burnham y swydd fel ysgrfennydd preifat i'r senedd dros David Blunkett, a oedd yn Ysgrifennydd Cartref. Wedi ymddiswyddiad Blunkett yn 2004 cymerodd yr un swydd gyda Ruth Kelly, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Sgiliau. Enillodd ddyrchafiad i'r Swyddfa Gartref yn llywodraeth Tony Blair yn 2005 fel Gweinidog Seneddol o dan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gardiau adnabyddiaeth. Yn 2006 symudodd eto i ddod yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Iechyd.
Yn y Cabinet
golyguWedi dyrchafiad Gordon Brown i ddod yn Brif Weinidog y DU yn 2007, apwyntiwyd Burnham fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Bu yng nghanol dadleuon wedi iddo ymosod ar adroddiad y Ceidwadwyr ar yr Economi heb ei ddarllen, ac yna yn cytuno gyda pholisi'r Ceidwadwyr i gefnogi teuluoedd trwy'r system drethi.
Ar ôl 6 mis yn unig yn y swydd fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, symudodd i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Eto, bu Burnham ymysg sawl dadl gan gynnwys pardduo cymeriad Shami Chakrabarti, cyfarwyddwraig grwp hawliau dynol Liberty. I ffwrdd o'r dadleuon, cydnabyddwyd Burnham fel gwleidydd effeithlon. Felly, yn ailgymysgiad 2009 apwyntiwyd Burnham i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd. Yn ddiweddar mae Burnham wedi cynnig newidiadau i'r system o gynnal yr henoed ac mae ef yn gyfrifol am ymateb y llywodraeth i ffliw'r moch.
Maer Manceinion
golyguEtholwyd Burnham i rôl newydd Maer Manceinion Fwyaf ar 5 Mai 2017[2]. Derbyniodd 63% o'r bleidlais, gan ennill mwyafrif ym mhob un o ddeg bwrdeistref Manceinion Fwyaf. Yn ei araith buddugoliaeth dywedodd fod "[gwleidyddiaeth] wedi bod yn rhy ganolog i Lundain ers gormod o amser ... mae Manceinion Fwyaf yn mynd i gymryd rheolaeth. Rydyn ni'n mynd i newid gwleidyddiaeth a gwneud iddo weithio'n well i bobl."[3] Mae'n un sy'n gofyn am fwy o ddatganoli i ardaloedd yn Lloegr gan ddod yn ffigwr allweddol yn ymateb yn erbyn Boris Johnson yn ystod y pandemig COVID-19.[4] Cafodd ei ailethol yn 2021 gyda mwyafrif mawr, gan ddweud bod yna fandad i ddatganoli yn Lloegr.[5]
Bywyd personol
golyguPriododd Burnham Marie-France van Heel yn 2000 ar ôl cyfarfod yn y Brifysgol a threulio 11 mlynedd gyda'i gilydd. Mae Marie-France wedi gweithio fel pennaeth marchnata gyda MTV, BSkyB a Littlewoods Gaming, a bu'n gyfarwyddwraig cynllunio gyda WRG. Heddiw mae Marie-France yn gyfarwyddwraig MvH Marketing Ltd. Mae gan y ddau un mab a dwy ferch. Yn y gorffennol roedd Burnham yn Gadeirydd anrhydeddys Clwb Cynghrair Rygbi Leigh. Roedd ef yn gricedwr a phêl-droediwr dawnus fel plentyn, gan gystadlu dros Goleg Fitzwilliam yn y ddwy gamp. Mae ef yn aelod o dîm pêl-droed y blaid Lafur, "Demon Eyes", ac mae wedi cefnogi Everton F.C. ers ei blentyndod.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "MPs representing Leigh". Senedd y DU. Cyrchwyd March 11, 2024.
- ↑ "Andy Burnham elected mayor of Greater Manchester". The Guardian. May 5, 2017. Cyrchwyd March 11, 2024.
- ↑ "Mayor Andy Burnham's victory speech - Manchester 1 Liverpool 0". www.wigantoday.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Bardsley, Andrew (2020-10-10). "Northern leaders reject new furlough and 'won't surrender residents to hardship'". Manchester Evening News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Knott, Jonathan (2021-05-08). "Re-elected Burnham says devolution has a mandate". Local Government Chronicle (LGC) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) TheyWorkForYou.com - Cernlun fel AS a patrwm pleidleisio yn y Senedd
- (Saesneg) Wefan Andy Burnham
- (Saesneg) Cerlun y Guardian
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Lawrence Cunliffe |
Aelod Seneddol dros Leigh 2001 – 2017 |
Olynydd: Jo Platt |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Alan Johnson |
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 |
Olynydd: Andrew Lansley |