Andromeda (galaeth)

Mae Galaeth Fawr Andromeda, neu Messier 31 (M31) a NGC 224, yn un o alaethau cymdogol ein Galaeth ni (Galaeth y Llwybr Llaethog), wedi'i leoli yng nghytser Andromeda sydd i'w weld yn hemisffer y Gogledd ger gytser Cassiopeia. Galaeth Andromeda yw'r galaeth mwyaf yn y Grŵp Lleol (y galaethau agosaf i ni). Adnabyddir fel M31 oherwydd roedd yr alaeth yn rif 31 yng Nghatalog Messier, a hefyd fel NGC 224 yn ôl ei leoliad yn y Catalog Cyffedinol Newydd o glystyrau sêr a gwrthrychau nifylaidd. Defnyddiwyd yr enw Nifwl Mawr Andromeda hyd at ddechrau yr 20g cyn i'w natur fel alaeth annibynnol o'n Galaeth ni cael ei ddarganfod gan Edwin Hubble.

Andromeda
Andromeda Galaxy (with h-alpha).jpg
Math Galaeth droellog Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Andromeda Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Grŵp Lleol, [TSK2008] 222 Edit this on Wikidata
Llun lliw yn oleuni gweladwy o Alaeth Fawr Andromeda (M31)

Y seren ddisgleiriaf yng nghytser Andromeda yw'r seren ail faintioli Alpheratz; mae'r galaeth Andromeda yn gorwedd yn agos iddi yn awyr y nos. Enwir Andromeda ar ôl y dduwies Roeg Andromeda, merch Cepheus brenin Ethiopia gan Cassiope. Mae'r alaeth yn weladwy i'r llygaid noeth o safleoedd tywyll ymhell o oleuadau trefi.[1]

Darlun yn oleuni gweladwy o ganol Galaeth Fawr Andromeda (M31) yn dangos yr ymchwydd. Mae cymylau o nwy a llwch oer yn dangos yn dywyll neu liw brown oherwydd effaith y llwch

Cysawd o fwy na 400 biliwn seren ydy'r alaeth, 2.5 miliwn o flynyddoedd goleuni (24 miliwn miliwn miliwn km, 15 milliwn miliwn miliwn milltir) o'r Ddaear. Mae'r alaeth yn cynnwys nwy rhwng y sêr, a llwch tu fewn i'r nwy. Mae'r rhan fwyaf o'r sêr, nwy a llwch yn bodoli mewn disg gwastad tenau. Yn gwasgaredig yn lawer mwy eang na'r sêr ydy mater tywyll a mae'r màs y mater tywyll yn llawer iawn mwy na'r màs mater gweladwy.[2]

Llun cyfansawdd isgoch o alaeth Andromeda (gan Delesgop Gofod Spitzer NASA)

Yn y llun cyfansawdd uchod gwelir y gwrthgyferbyniad rhwng y tonnau llwch afreolaidd (pinc) o gwmpas y sêr ifanc yn yr alaeth a'r môr o sêr hŷn (glas), sydd mwy llonydd a rheolaidd. Mae Andromeda yn alaeth troellog ac yn nodweddiadol o'r dosbarth hwnnw; mae'r canol yn llawn o sêr tra bod y breichiau yn feithrinfeydd i sêr newydd. Mae llun isgoch yn ein galluogi i weld yn glir yr alaeth gyflawn, yn hytrach na goleuni gweladwy sydd yn cael ei sugno gan y llwch.

CyfeiriadauGolygu

  1. Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 1. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23567-X. Tud. 103–150. (Yn Saesneg.)
  2. Rich, Michael (2014). "Battle of the Titans: The Milky Way vs. Andromeda". Sky and Telescope 128 (4): 20–28. (Yn Saesneg.)