Aneurin Rees
Roedd Theophilus Aneurin Rees (9 Ebrill 1858 - 11 Medi 1932) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a oedd yn cynrychioli Coleg Llanymddyfri ar lefel clwb. Cafodd ei gapio unwaith i Gymru, yng ngêm rygbi rhyngwladol gyntaf un y wlad.
Tîm cyntaf Cymru, mae Rees yn eistedd yn y rhes ganol, chwith pellaf, Chwefror 1881 | |||
Enw llawn | Theophilus Aneurin Rees | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 9 Ebrill 1858 | ||
Man geni | Llandingad | ||
Dyddiad marw | 11 Medi 1932 | (74 oed)||
Lle marw | Merthyr Tudful | ||
Ysgol U. | Coleg Llanymddyfri Sherborne School | ||
Prifysgol | Coleg yr Iesu, Rhydychen | ||
Gwaith | Cyfreithiwr | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Blaenwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
Clwb Pêl-droed De Cymru Coleg Llanymddyfri | |||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1881 | Cymru | 1 | 0 |
Cefndir
golyguGanwyd Rees ym Mhlas Ton, Llandingad, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i William Rees, cyhoeddwr, tirfeddiannwr a chlerc Cyngor Llanymddyfri [1] a Frances (Fanny) ei wraig. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Llanymddyfri, Ysgol Sherborne, Swydd Dorset a Choleg yr Iesu Rhydychen. Roedd yn dod o deulu o nodedig,[2] roedd ei hen ewythr y Parch. Jenkin Rees [3] yn Gymrawd Coleg Wadham, Rhydychen; tra roedd ewythr, yr Athro Rice Rees o Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn gymrawd Coleg yr Iesu, Rhydychen.[4]
Gyrfa
golyguYm 1890 derbyniwyd Rees yn gyfreithiwr, ac erbyn 1901 fe'i penodwyd yn glerc i Gyngor Dosbarth Trefol Merthyr.[5] Bedair blynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Glerc y Dref. Bu'n fabolgampwr brwd trwy gydol ei oes. Yn ogystal â rygbi bu'n chwarae criced i dîm Llanymddyfri [6] a thîm criced De Cymru [7]. Bu'n allweddol ar gyfer twf golff ym Merthyr,[8] ac roedd yn ffigwr canolog wrth sefydlu Clwb Golff Castell Morlais a Chlwb Golff Cilsanws yng Nghefn Coed y Cymer.
Gyrfa rygbi
golyguEr bod Rees yn fwyaf adnabyddus am gynrychioli Cymru yng ngem rygbi'r undeb rhyngwladol cyntaf y genedl, roedd Rees wedi chwarae gemau i Glwb Pêl-droed De Cymru,[9] a oedd yn rhagflaenydd tîm cenedlaethol Cymru. Ffurfiwyd Clwb Pêl-droed De Cymru ym mis Medi 1875, gyda'r bwriad o, nid yn unig, chwarae timau lleol, ond hefyd i chwarae'r prif glybiau yng Ngorllewin Lloegr.[10]
Ar 19 Chwefror 1881 cynrychiolodd Rees dîm undeb rygbi cenedlaethol Cymru yng ngêm rygbi rhyngwladol gyntaf un y wlad, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr.[11] Roedd y gêm yn drychineb chwaraeon i’r Cymry, gyda’r chwaraewyr heb brofiad o chwarae gyda'i gilydd, a llawer o’r tîm wedi'u gosod allan o safle. Enillodd y Saeson o wyth gôl, gan sgorio 13 cais i gyd, gyda Chymru yn methu â sgorio. Dyma oedd unig gap Rees i Gymru, gyda'r rhan fwyaf o'r tîm yn cael ei ddisodli ar gyfer gêm ryngwladol nesaf Cymru ym 1882. Ef oedd cyn-fyfyriwr cyntaf Coleg yr Iesu i chwarae i Gymru.
Ar 12 Mawrth 1881, fel canlyniad uniongyrchol i drychineb ac embaras gêm rygbi rhyngwladol cyntaf Cymru, sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru yng Ngwesty'r Castell yng Nghastell-nedd. Erbyn mis Medi 1882, cadarnhawyd ei swyddogion, a phenderfynwyd rhannu Cymru yn ddwy brif ardal rygbi. Gyda Phen-y-bont yn ei ganol, ffurfiwyd ardal Ddwyreiniol a Gorllewinol. Cynrychiolwyd y Dwyrain gan Alex Duncan o Gaerdydd ac ysgrifennydd U.R.C., Richard Mullock. Gwasanaethwyd y Gorllewin gan Ray Knill o Abertawe ac Aneurin Rees.[12] Ar ôl bod yn aelod o dîm gwarthus cyntaf Cymru, cafodd Rees ei hun bellach yn un o'r pedwar dewisydd cenedlaethol cyntaf, a rhoddodd ei wasanaeth orau i sicrhau na fyddai digwyddiadau ffars ryngwladol 1881 yn digwydd eto.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru
- Lloegr 1881
Teulu
golyguYm 1879 priododd Rees ag Edith Mackenzie Low merch Mr W. Low o Grove Park. Wrecsam.[13] Bu iddynt bump o blant.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Ton Newydd, Merthyr Tudful yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Cefn Coed y Cymer.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ REES, WILLIAM (1808 - 1873), argraffydd a chyhoeddwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Hyd 2020
- ↑ REES o'r TON (a mannau eraill gerllaw Llanymddyfri),. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Hyd 2020
- ↑ REES, WILLIAM JENKINS (1772 - 1855), clerigwr a hynafiaethydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Hyd 2020
- ↑ REES, RICE (1804 - 1839), clerigwr ac ysgolhaig. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Hyd 2020
- ↑ "Comments and Criticisms - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-09-13. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ "GREAT CRICKET MATCH AT NEWPORT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1881-09-10. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ "CRICKET GENTLEMEN OF SUSSEX V SOUTH WALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1880-08-30. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ Club Information Merthyr Tydfil Golf Club Archifwyd 2020-10-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Hydref 2020
- ↑ "Local Intelligence - The Cambrian". T. Jenkins. 1876-12-01. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ "FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1877-01-13. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ [<ref>"FOOTBALL England v Wales - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1881-02-25. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ "Welsh Football Union - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1882-09-23. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ "MARRIAGE OF MR T A REES LLANDOVERY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1879-11-29. Cyrchwyd 2020-10-27.
- ↑ Find a Grave, memorial page for Theophilus Aneurin Rees (9 Apr 1858–11 Sep 1932) adalwyd 27 Hydref 2020