Angela Burns
Gwleidydd o Gymru yw Angela Burns. Bu'n Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rhwng 2007 a 2021.
Angela Burns | |
---|---|
![]() | |
Ysgrifennydd Cysgodol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 2016 | |
Arweinydd | Andrew R. T. Davies Paul Davies |
Gweinidog Cysgodol dros Addysg | |
Yn ei swydd 2010–2016 | |
Arweinydd | Andrew R. T. Davies |
Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | |
Yn ei swydd 3 Mai 2007 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Christine Gwyther |
Dilynwyd gan | Sam Kurtz |
Mwyafrif | 1,504 (5.3%) |
Manylion personol | |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Andrew Burns |
Cartref | Sir Benfro & Caerdydd |
Pwyllgorau | Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2008-2011, Aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb. Ar hyn o bryd yn aelod o Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Portffolio | Comisiynydd Senedd Cymru |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Burns i deulu Seisnig ac fe'i magwyd mewn sawl gwlad dramor. Fe aeth i fyd busnes ar ôl gadael ysgol, yn gweithio i gwmnïau fel Waitrose, Thorn EMI a Asda gan ddod yn gyfarwyddwr ei chwmni ei hun. Yn ddiweddarach, symudodd i Sir Benfro gyda'i gŵr a daeth yn weithgar mewn gwleidyddiaeth.
Gyrfa wleidyddol
golyguYn etholiad y Cynulliad yn 2007 enillodd y sedd gan guro'r aelod blaenorol, Christine Gwyther (Plaid Lafur) o ddim ond 98 pleidlais a John Dixon (Plaid Cymru) o 250 pleidlais mewn gorest agos iawn.
Roedd hi'n Weinidog Cysgodol dros Gyllid a Chyflenwi Sector Gyhoeddus rhwng 11 Gorffennaf 2007 a 16 Mehefin 2008 ac yna daeth yn Weinidog Cysgodol dros Drafnidiaeth ac Adfywio ar 22 Hydref 2008.[1]
Yng Ngorffennaf 2020 dywedodd na fyddai yn cystadlu ei sedd yn etholiad Senedd Cymru yn 2021.[2]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Christine Gwyther |
Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 2007 – 2021 |
Olynydd: Sam Kurtz |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Greasy wops slur Tory is general election candidate" (yn Saesneg). Wales Online. 2008-10-22. Cyrchwyd 2008-11-07.
- ↑ Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gadael Senedd Cymru , BBC Cymru Fyw, 15 Gorffennaf 2020.