Paul Davies

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Ceidwadol yw Paul Windsor Davies (ganwyd 1969) oedd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig rhwng Medi 2018 a Ionawr 2021. Cafodd ei ethol i gynrychioli etholaeth Preseli Penfro yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn etholiadau mis Mai 2007, gan gipio y sedd oddi wrth Llafur. Cafodd ei ail-ethol ym Mai 2011 ac yn Mai 2016.[1]

Paul Davies
AS
Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd
Yn ei swydd
27 Mehefin 2018† – 23 Ionawr 2021
DirprwySuzy Davies
ArweinyddTheresa May
Boris Johnson
Rhagflaenwyd ganAndrew R. T. Davies
Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid
Yn ei swydd
6 Mai 2011 – 14 Gorffennaf 2011
Dros dro
ArweinyddDavid Cameron
Rhagflaenwyd ganNick Bourne
Dilynwyd ganAndrew R. T. Davies
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Senedd
Yn ei swydd
27 Mehefin 2018 – 23 Ionawr 2021
TeyrnElizabeth II
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganAndrew R. T. Davies
Dirprwy Arweinydd y
Ceidwadwyr Cymreig
Yn ei swydd
14 Gorffennaf 2011 – 27 Mehefin 2018
ArweinyddAndrew R. T. Davies
Dilynwyd ganSuzy Davies
Aelod o Senedd Cymru
dros Preseli Penfro
Deiliad
Cychwyn y swydd
3 Mai 2007
Rhagflaenwyd ganTamsin Dunwoody
Mwyafrif3,930 (13.6%)
Manylion personol
Ganwyd1969 (54–55 oed)
Pontsian, Ceredigion
Plaid wleidyddolCeidwadwyr
Gwefanpaul-davies.org.uk
† Arweinydd dros dro: 27 Mehefin 2018 - 6 Medi 2018

Cefndir golygu

Magwyd Davies yn Pontsian. Mynychodd Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Ramadeg Llandysul, gan astudio lefelau A levels yn Ysgol Gyfun Castellnewydd Emlyn. Mae Davies nawr yn byw ym Mlaenffos, gogledd Sir Benfro.

Gyrfa brofessiynol golygu

Bu Davies yn gweithio i Lloyds TSB o 1987 hyd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, gyda swydd fel Rheolwr Busnes wedi ei leoli yn Hwlffordd yn helpu i ddatblygu busnesau bach.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ym mis Chwefror 2000, dewiswyd Davies fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol yn is-etholiad Ceredigion; daeth yn drydydd wedi cynyddu pleidlais y Blaid Geidwadol. Ymgeisodd am y sedd eto yn etholiad cyffredinol 2001. Yn etholiad y Cynulliad yn 2003, bu'n ymladd Preseli Penfro lle cynyddodd y gyfran o'r bleidlais o 23% i 30%, gan dorri mwyafrif y Blaid Lafur i 1,326.

Bud Davies hefyd yn gweithio o fewn y Blaid Geidwadol yn lleol, gan gynnwys bod yn gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Ceredigion a Dirprwy Gadeirydd Ceidwadwyr Canolbarth a Gorllewin Cymru .

Fe'i etholwyd gyntaf i'r Cynulliad yn 2007. Tan fis Mawrth 2009 bu'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. O fis Mawrth 2009 hyd Etholiad y Cynulliad yn 2011, roedd Davies yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg a'r Iaith Gymraeg. Ar ôl ei ail-ethol fel Aelod Cynulliad dros Preseli Penfro ym mis Mai 2011, roedd yn Arweinydd Dros-dro Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, cyn cael ei benodi fel Dirprwy Arweinydd  yn Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ac yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gyllid.

Yn Medi 2018 fe'i etholwyd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gan ennill 68.1% o'r bleidlais yn erbyn ei wrthwynebydd, Suzy Davies.[2] Ymddiswyddodd fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac arweinydd yr wrthblaid yn y Senedd ar 23 Ionawr 2021 ar ôl ymchwiliad yn dangos efallai ei fod wedi torri rheolau COVID drwy yfed alcohol yn y Senedd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.bbc.co.uk/news/special/election2011/constituency/html/26696.stm BBC News Election 2011 special
  2. Paul Davies yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig , Golwg360, 6 Medi 2018.
  3. "Ffrae yfed alcohol: Paul Davies yn ymddiswyddo". BBC Cymru Fyw. 2021-01-23. Cyrchwyd 2021-01-23.

Dolenni allanol golygu