Christine Gwyther
Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Lafur yw Christine Gwyther (ganed 1959). Deliodd sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2007.
Christine Gwyther | |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2007 | |
Geni | 1959 Doc Penfro |
---|---|
Plaid wleidyddol | Y Blaid Lafur (DU) |
Bywgraffiad
golyguGaned Gwyther yn Noc Penfro. Cyn cychwyn gweithio ym myd gwleidyddiaeth, bu'n Swyddog Datblygu ar gyfer Cyngor Sir Benfro.
Gweinidog Amaeth yn llywodraeth Alun Michael oedd hi yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad. Ond cafodd ei beirniadu gan ffermwyr a'r gwrthbleidiau gan ei bod yn lysieuwr. Mi fethodd i gyflwyno cynllun prosesu lloi, ar adeg pan oedd Cymru, a Phrydain mewn argyfwng cig eidion.
Collodd ei sedd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, gan golli etholiad agos i'r ymgeisydd Ceidwadol Angela Burns; ymgeisiodd am y sedd unwaith eto yn etholiad 2011 ond Angela Burns enillodd unwaith yn rhagor.
Cafodd ei diswyddo o'r swydd Gweinidog Amaeth ar noswyl y Sioe Frenhinol yn 2000, gan y Prif Weinidog Rhodri Morgan.
Dolenni allanol
golygu- Erthygl am Gwyther yn y Guardian
- Bywgraffiad ar wefan y Cynulliad Archifwyd 2007-01-08 yn y Peiriant Wayback
- Bywgraffiad ar wefan Plaid Llafur Cymru Archifwyd 2006-12-30 yn y Peiriant Wayback
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 1999 – 2007 |
Olynydd: Angela Burns |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: Swydd newydd |
Gweinidog Amaeth 1999 – 2000 |
Olynydd: Carwyn Jones |