Angela Lansbury
Actores a chantores Gwyddelig-Brydeinig ac o'r Unol Daleithiau oedd y Fonesig Angela Brigid Lansbury DBE (16 Hydref 1925 – 11 Hydref 2022). Roedd ei gyrfa yn un o'r hiraf yn y busnes adloniant, gan barhau am dros wyth degawd, y mwyafrif ohono yn yr Unol Daleithiau.[1]
Angela Lansbury | |
---|---|
Angela Lansbury yn 1950 | |
Ganwyd | Angela Brigid Lansbury 16 Hydref 1925 St Pancras, Llundain |
Bu farw | 11 Hydref 2022 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llais, canwr, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor cymeriad, sgriptiwr, actor teledu, actor llwyfan, actor ffilm, cynhyrchydd teledu, actor |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Edgar Lansbury |
Mam | Moyna MacGill |
Priod | Peter Shaw, Richard Cromwell |
Plant | Anthony Shaw |
Perthnasau | George Lansbury, Dorothy Thurtle, Daisy Lansbury, Tamara Ustinov, John Postgate, Oliver Postgate, Coral Lansbury, Malcolm Turnbull, Peter Ustinov |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center, 'Disney Legends', Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, Sarah Siddons Award, Sarah Siddons Award, Gwobr Lucy, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actores Eithriadol mewn Sioe Gerdd, Gwobr Agatha, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Drama League Award, Hasty Pudding Woman of the Year |
Gwefan | http://www.angelalansbury.net |
Fe'i ganed yng nghanol Llundain i'r actores Gwyddelig Moyna MacGill a'r gwleidydd Seisnig Edgar Lansbury. Yn 1940, symudodd i Ddinas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau, lle astudiodd actio. Symudodd i Hollywood, Los Angeles yn 1942, lle arwyddodd gytundeb gyda MGM a chafodd ei rhan gyntaf mewn ffilm yn Gaslight (1944), "National Velvet (ffilm 1944)[2] a The Picture of Dorian Gray (1945).
Yn ddiweddarach daeth yn seren ar Broadway yn y sioe gerdd Mame (1966) gan ennill ei gwobr Tony cyntaf a'i sefydlu fel eicon hoyw. Yn 1984 cychwynodd bortreadu'r cymeriad Jessica Fletcher yn y rhaglen deledu Murder, She Wrote gan ennill enwogrwydd byd-eang. Chwaraeodd y rhan am 12 mlynedd a gwnaeth llwyddiant y sioe ei gwneud yn hynod gyfoethog, gyda ffortiwn amcangyfrifwyd i fod tua $100m.
Bu farw yn ei chwsg, yn ei chartref yn Los Angeles, pum niwrnod cyn ei phen-blwydd yn 97 mlwydd oed.
Ffilmiau a theledu
golygu- Bedknobs and Broomsticks (1971), ffilm Disney
- Murder, She Wrote (1984) - (1996)
- The Company of Wolves (1984)
- Beauty and the Beast (1991), ffilm Disney
- Mrs. Santa Claus (1996)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Murder, She Wrote star Angela Lansbury dies at 96 , BBC News, 11 Hydref 2022.
- ↑ film credits and IMDB