Angeueg
Yr astudiaeth gwyddonol o farwolaeth a'r colledion sy'n dod fel canlyniad iddo.
Gwyddor marwolaeth yw angeueg[1] sydd yn astudio'r profiad marw, gofal diwedd oes, ac agweddau seicolegol galaru. Maes rhyngddisgyblaethol ydyw sydd yn tynnu ar feddygaeth a gwyddor iechyd, gwyddor ymddygiad, cymdeithaseg, anthropoleg, diwinyddiaeth, athroniaeth, economeg, ac hanes.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | gwyddoniaeth, applied psychology |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym 1903 fe alwodd y biolegydd Élie Metchnikoff am sefydlu disgyblaeth wyddonol i astudio'r holl ffenomenau sydd yn ymwneud â marwolaeth, gan ddadlau bod angen deall y pwnc hwnnw os yw gwyddonwyr am ddeall y gwyddorau bywyd. Ni chafwyd datblygiad yn y maes nes ail hanner yr 20g. Tyfodd y ddisgyblaeth yn y 1960au a'r 1970au ar sail llyfrau gan Herman Feifel, Robert Kastenbaum, Ruth Aisenberg, ac Elisabeth Kübler-Ross.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "thanatology".
- ↑ "Thanatology" yn Macmillan Encyclopedia of Death and Dying (Gale, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 14 Awst 2017.
- ↑ (Saesneg) Thanatology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Awst 2017.