Angharad Elen
Mae Angharad Elen Blythe neu Angharad Elen (ganwyd Mai 1979)[1] yn awdur a chynhyrchydd o Landwrog, gogledd Cymru.[2] Ar ôl graddio gydag B.A. dosbarth cyntaf mewn Cymraeg ac Athroniaeth ac yna M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd, bu’n gweithio fel Rheolwr Llenyddol i Sgript Cymru - cwmni theatr ysgrifennu newydd dwyieithog wedi’i leoli yng Nghaerdydd.
Angharad Elen | |
---|---|
Ganwyd | Angharad Elen Blythe Mai 1979 Llandwrog, Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Prifysgol Caerdydd |
Galwedigaeth | llenor a chynhyrchydd teledu |
Tad | Robert Blythe |
Mam | Iola Gregory |
Perthnasau | Rhian Blythe |
Yn 2006 symudodd ymlaen i weithio ym myd teledu a ffilm. Mae hi wedi ennill sawl gwobr Bafta Cymru a Gŵyl Cyfryngau Celtaidd ac un wobr Broadcast am y rhaglenni dogfen Gerallt a Merêd a'r gyfres deledu i blant, Deian a Loli.
Bu'n gweithio i Cwmni Da, sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon, gogledd Cymru, am 16 mlynedd, fel Cynhyrchydd, cyn penderfynu gadael yn 2021 i fynd yn awdur llawrydd.
Hi wnaeth ddyfeisio'r gyfres ddrama Stad i S4C, gan fraslunio'r ddwy gyfres ar y cyd â Daf Palfrey. Llwyfanwyd ei drama lwyfan gyntaf, Olion: Arianrhod gan gwmni theatr Frân Wen yn 2024.
Ei rhieni yw'r actorion Iola Gregory a Robert Blythe. Ei chwaer yw'r actores Rhian Blythe.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Angharad Elen BLYTHE personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-01.
- ↑ "www.gwales.com - 9781784616472, Cyfres Deian a Loli: A'r Sêr Sy'n Cysgu". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-07.
- ↑ "Angharad Elen". IMDb. Cyrchwyd 2019-11-07.