Actores llwyfan, radio a theledu o Gymru yw Rhian Alaw Blythe neu Rhian Blythe (ganwyd Chwefror 1982) yn Llandwrog.[1] Enillodd wobr yr actores orau gan BAFTA Cymru yn 2014[2] am ei phortread o'r athrawes Grug Matthews yn y gyfres Gwaith/Cartref i S4C. Ac yn 2008, enillodd wobr yr actores orau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin am ei phortread o'r milwr 'Jonsey', yng nghynhyrchiad Sherman Cymru o'r ddrama Deep Cut.[3]

Rhian Blythe
FfugenwBlaidd
GanwydRhian Alaw Blythe
Chwefror 1982
Llandwrog, Gwynedd
Alma materColeg y Frenhines Margaret, Caeredin
Galwedigaethactores
Cysylltir gydaGwaith/Cartref
Cartre'r teuluCaerdydd
TadRobert Blythe
MamIola Gregory
PriodSimon Watts

Mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon[4] wedyn addysgwyd Blythe ym Mhrifysgol y Frenhines Margaret (QMC) yng Nghaeredin, cyn cael ei dewis yn un o'r 4 actor craidd cyntaf yng nghyfnod Cefin Roberts fel arweinydd Theatr Genedlaethol Cymru.[3]

Bu'n gweithio'n helaeth yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys yn Efrog Newydd gyda 59 E 59, Theatr y Tricycle a Soho yn Llundain, a Theatr Traverse, Caeredin.[3]

Bywyd personol

golygu

Mae hi'n ferch i'r actorion Iola Gregory a Robert Blythe, yn chwaer i'r llenor Angharad Elen, ac yn briod a'r actor Simon Watts. Mae ganddynt ddau o blant.

[detholiad]

Theatr

golygu

gyda Theatr Genedlaethol Cymru

Teledu a ffilm

golygu
  • Mostyn Fflint 'N Aye (2004)
  • Talcen Caled (2005)
  • Man Del (2006)
  • Joni Trons (2006)
  • Pen Talar (2009)
  • Blodau (2009)
  • Gwaith/Cartref (2010-2014)
  • Diaries of the Great War (2013)
  • Yr Oedi (2014)
  • Meripwsan (2015)
  • Parch (2016)
  • Y Gwyll / Hinterland (2016)
  • You have reached your Destination (2017)
  • Titsh (2017)
  • Morfydd (2018)
  • Keeping Faith (2018)
  • Deian a Loli (2018-2020)
  • Cymru, Dad a Fi (2020)
  • Craith / Hidden (2021)
  • The Light in the Hall (2022)
  • Casualty (2023)
  • Cleddau / The One that got Away (2024)
  • Fire of the Dragon (2007)
  • Dic Dyrys (2013)
  • 1945 (2013)
  • Dydd Llun Percy Morgan (2014)
  • Chwilio am Eunice (2015)
  • Script Slam (2017)
  • Colli Awen (2017)
  • Perthyn (2020)
  • Un Nos Ola Leuad (2023)
  • Blue Book of Nebo (2024)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhian Alaw BLYTHE personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-01.
  2. "BAFTA Cymru - Actress in 2014" (yn Saesneg). BAFTA. Cyrchwyd 2024-10-01.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Regan Talent Group | Rhian Blythe" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-01.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Caernarfon actress Rhian Blythe goes back to school in S4C's Gwaith Cartref". North Wales Daily Post (yn Saesneg). 17 Medi 2011. Cyrchwyd 2024-10-01.