Iola Gregory
Actores o Gymraes oedd Eirian Iola Gregory neu Iola Gregory (1 Ionawr 1946 – 21 Tachwedd 2017) a ddaeth yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Jean McGurk yn yr opera sebon Pobol y Cwm.
Iola Gregory | |
---|---|
Ganwyd | Eirian Iola Gregory 1 Ionawr 1946 Hammersmith |
Bu farw | 21 Tachwedd 2017 Llandwrog |
Galwedigaeth | actor |
Priod | Robert Blythe |
Plant | Rhian Blythe ac Angharad Elen |
Bywyd cynnar
golyguRoedd ei rhieni yn byw yn Comins Coch ger Aberystwyth. Ei mam oedd Millicent Gregory o Sir Benfro, athrawes Gymraeg ac ymgyrchydd iaith gyda Chymdeithas yr Iaith. Roedd ei thad Oliver yn reolwr banc yn Aberystwyth.
Gyrfa
golyguDaeth Iola Gregory yn actores broffesiynol yn y 1970au. Roedd yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws yn 1977.[1]
Daeth yn wyneb cyfarwydd ar gynyrchiadau teledu a ffilm Cymraeg yn yr 1980au, yn chwarae mam Joni Jones ar y gyfres deledu o'r un enw.[2]. Fe ymddangosodd yn y ffilmiau Aderyn Papur (1983), Rhosyn a Rhith (1986) a Stormydd Awst (1988). Fe chwaraeodd gymeriad y Matron yn nhrydedd cyfres y ddrama deledu District Nurse a ddangoswyd ar rwydwaith BBC One.
Ymddangosodd yn y gyfres Minafon cyn ymuno gyda chast yr opera sebon Pobol y Cwm yn 1987, gan chwarae'r cymeriad lliwgar Jean McGurk (Mrs Mac) a fyddai'n dod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd. Fe adawodd y gyfres yn 1997.[3]
Yn fwy diweddar, ymddangosodd Iola ar y gyfres sebon i blant Rownd a Rownd a'r ddrama Porthpenwaig.
Bywyd personol
golyguRoedd hi'n briod gyda'r actor Robert Blythe cyn gwahanu yn ddiweddarach. Roedd ganddi ddwy ferch, yr awdures Angharad Elen Blythe a'r actores, Rhian Blythe.[4]
Yn fwy diweddar roedd yn bartner i'r prifardd Gerallt Lloyd Owen cyn ei farwolaeth yn 2014.[5]
Bu farw yn ei chartref yng Nghaernarfon ar 21 Tachwedd 2017 wedi salwch byr. Mewn teyrnged, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd S4C "Roedd ei chyfraniad i’r byd drama yn un anferthol, ei hymroddiad i’r diwydiannau creadigol yn angerddol ac fe fydd yna golled aruthrol ar ei hôl."[6]
Yn Rhagfyr 2018 lansiwyd cronfa er cof amdani, gan ei merched. Bydd y gronfa yn agored i unrhyw un sydd am lwyfannu drama neu greu ffilm fer ddramatig[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hanes Theatr Bara Caws; Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2015". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-12-30.
- ↑ Porth - Joni Jones; Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2015
- ↑ PEINT, PLIS! The Deri Arms has been a watering hole for the inhabitants of Cwmderi since Pobol y Cwmwas first launched in October 1974, Western Mail, 8 Mawrth 2008; Adalwyd 2015-12-30
- ↑ Rhian Blythe: Pum Munud Gyda, Daily Post, 24 Medi 2011; Adalwyd 12 Rhagfyr 2015
- ↑ Gerallt Lloyd Owen: Renowned Welsh poet, The Independent; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015
- ↑ Marw’r actores Iola Gregory. Golwg360 (21 Tachwedd 2017).
- ↑ Lansio cronfa er cof am yr actores Iola Gregory , Golwg360, 30 Hydref 2018.
Dolenni allanol
golygu- Iola Gregory ar wefan Internet Movie Database