Mae  Anhwylder Cotard yn afiechyd meddwl anghyffredin ble mae'r person sydd wedi'i effeithio yn credu eu bod eisoes wedi marw, ddim yn bodoli, yn pydru, neu wedi colli eu gwaed neu organau mewnol.[1] Mae dadansoddiad ystadegol o garfan o gant o gleifion yn dangos bod gwadu hunan-fodolaeth yn symptom sy'n bresennol mewn 69% o achosion o anhwylder Cotard; ac eto, yn baradocsaidd, mae 55% yn credu eu bod yn anfarwol.[2]

Anhwylder Cotard
Enghraifft o'r canlynolclefyd Edit this on Wikidata
Mathdelusional syndrome Edit this on Wikidata

Yn 1880, disgrifiodd y niwrolegydd Jules Cotard y cyflwr fel Le délire des négations ("Deliriwm Negyddiad"), syndrom seiciatrig sy'n amrywio yn ei ddifrifoldeb. Nodweddir achos ysgafn gan anobaith a hunan-atgasedd, tra bod achos difrifol yn cael ei nodweddu gan gamddychmygion dwys o negyddiad ac iselder seiciatrig cronig.[3][4] Mae achos Mademoiselle X yn disgrifio menyw a oedd yn gwadu bodolaeth rhannau o'i chorff a'i hangen i fwyta. Dywedodd ei bod wedi'i chondemnio i ddamnedigaeth dragwyddol ac na allai o ganlyniad farw yn naturiol. Wrth ddioddef o "Ddeliriwm Negyddiad", bu farw Mademoiselle X o newyn.

Nid yw anhwylder Cotard wedi'i grybwyll yn Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol Anhwylderau Meddwl (DSM)[5] nac yn y degfed golygiad o'r Dosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol ar gyfer Afiechydon a Phroblemau Perthnasol i Iechyd (ICD-10) y Gyfundrefn Iechyd Fyd-eang.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Berrios G.E.; Luque R. (1995). "Cotard's delusion or syndrome?.". Comprehensive Psychiatry 36: 218–223. doi:10.1016/0010-440x(95)90085-a.
  2. Berrios G.E.; Luque R. (1995). "Cotard Syndrome: Clinical Analysis of 100 Cases". Acta Psychiatrica Scandinavica 91: 185–188. doi:10.1111/j.1600-0447.1995.tb09764.x. PMID 7625193.
  3. Nodyn:WhoNamedIt
  4. Berrios G.E.; Luque R. (1999). "Cotard's 'On Hypochondriacal Delusions in a Severe form of Anxious Melancholia". History of Psychiatry 10: 269–278. doi:10.1177/0957154x9901003806.
  5. Debruyne H. (Jun 2009). "Cotard's syndrome: a review". Curr Psychiatry Rep. 11 (3): 197–202. doi:10.1007/s11920-009-0031-z. PMID 19470281.
  6. Debruyne Hans (2011). "Cotard's Syndrome". Mind & Brain 2. https://www.researchgate.net/publication/234082044_Cotard's_syndrome.