Anialwch Peintiedig, Arizona
Math | anialwch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Y Fforest Betraidd |
Sir | Coconino County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 35.5°N 110.08°W |
Lleoliad
golyguMae Anialwch Peintiedig, Arizona yn ardal Pedair Gornel yn Nhalaith Arizona yn Unol Daleithiau America (yn cyfeiro at fan cyswllt pedair talaith, sef Arizona, Mecsico Newydd, Utah a Cholorado). Mae'n ymestyn o Barc Cenedlaethol y Grand Canyon i'r de-ddwyrain ar lan ogleddol Afon Colorado Fach i Holbrook. Mae'r Anialwch tua 150 milltir (240 km) o hyd a 15 - 50 milltir (25 - 80 cilomedr) o led. Enwyd yr ardal ym 1858 gan Lieutenant Joseph C. Ives, chwilotwr yn gweithio dros y llywodraeth.[1] Mae'r anialwch hefyd yn rhan o Barc Cenedlaethol y Fforest Betraidd ac yn cynnwys y Fforest Ddu, un o bedwar ardal o fforest petraidd o'r Oes Mesosöig, sydd tua 170,000,000 o flynyddoedd oed.
Daeareg
golyguMae maint Yr Anialwch Peintiedig yn 93,500 o aceri,[2] ac yn cynnwys haenau hawdd eu herydu o garreg silt, carreg llaid a siâl o'r Oes Triasig. Mae'r lliwiau'n dod o gyfansoddion o haearn a manganîs, haematit (coch), limonit (melin) a gypswm (gwyn),ac mae'r lliwiau yn arbennig o drawiadol gyda'r machlud. Mae haenau tenau o galchfaen a charreg folcanig ar ben mynydd siap bwrdd neu 'mesas'. Mae yno hefyd haenau o ludw silica folcanig sydd wedi creu boncyffion petraidd unigryw yn yr ardal.[3] Mae uchelder yr anialwch rhwng 4,500 - 6,500 troedfedd (1,370 - 1,980 metr). Mae'r ardal yn sych, efo gwlybaniaeth blynyddol rhwng 5 - 9 mod (127 - 229 mm) , ac mae'r tymheredd yn amrywio rhwng -31 a 41 gradd Celsius. Estynnwyd ffiniau y parc dwywaith, ym 1932 a 1970, i gynnwys mwy o anialwch i'r gogledd.
Presenoldeb dyn
golyguMae mwyafrif y tir yn rhan o 'Diné Bikéyah', tir cenedl y Navaho, a defnyddir tywod yr ardal i greu peintiadau seremonïol.
Mae Canolfan yr Anialwch Peintiedig y tu fewn i Barc Cenedlaethol y Fforest Betraidd yn ymyl Holbrook, ac yn yr un ardal saif "Gwesty'r Painted Desert", sydd erbyn hyn yn amgueddfa a siop lyfrau yn hytrach na gwesty. Adeiladwyd y gwesty ym 1924 gan ddefnyddio maen lleol, yn gynnwys coed petraidd, ar yr hen 'Route 66' enwog. Mae olion y ffordd yn bodoli: o'r dwyrain i'r gorllewin, ar draws Arizona.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Britannica; adalwyd 9 Hydref 2012]
- ↑ arizona-leisure Archifwyd 2012-09-29 yn y Peiriant Wayback Gwefan Arizona Leisure; adalwyd 9 Hydref 2012
- ↑ Gwefan American Southwest (Parc Cenedlaethol y Fforest Betraidd) Archifwyd 2012-10-06 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 9 Hydref 2012