Ann Davies (Plaid Cymru)
Mae Ann Davies yn ffarmwraig, dynes fusnes a chynghorydd ar Gyngor Sir Gaerfyrddin dros Blaid Cymru. Mae hi hefyd yn sefyll dros y blaid ar gyfer etholaeth Caerfyrddin yn etholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng Nghymru.
Ann Davies | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Gyrfa golygu
Mae gan Ann Davies brofiad yn y sector amaethyddiaeth ac mae hi wedi ffermio yn Llanarthne ers 1992. Mae hi hefyd yn gydberchennog meithrinfa leol a bu’n ddarlithydd mewn dysgu blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a chyn hynny bu’n gweithio fel athro cerdd peripatetig.[1]
Mae Ann Davies, yn gynghorydd aelod cabinet dros faterion gwledig, cydlyniant cymunedol a pholisi cynllunio ar gyngor sir Gaerfyrddin.[2]
Danghosodd arolwg barn yn Chwefror 2024 bod Ann Davies ar y blaen i ennill 30% o bleidlais Caerfyrddin. Roedd y Torïaidd a Llafur yn gydradd ail gyda 24%; Jonathan Edwards fel ymgeisydd annibynol ar 10%; a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Diwygio ar 4% yr un.[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Councillor to officially launch her general election campaign this week". South Wales Guardian (yn Saesneg). 2024-01-17. Cyrchwyd 2024-02-01.
- ↑ Mansfield, Mark (2023-11-10). "Plaid Cymru picks general election candidate for new Carmarthen seat". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
- ↑ Mansfield, Mark (2024-02-01). "Double opinion poll boost for Plaid Cymru". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.