Caerfyrddin (etholaeth seneddol)

Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig yng Nghymru

Mae etholaeth Caerfyrddin yn ethol aelod i senedd San Steffan.

Caerfyrddin
Enghraifft o'r canlynolEtholaeth Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Poblogaeth93,900 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Cafodd ei greu ar gyfer Etholiad cyffredinol 1918. Roedd yr etholaeth yn cynnwys bron y cyfan o'r hen Sir Gaerfyrddin ac eithrio'r rhannau diwydiannol o'r sir o amgylch tref Llanelli. Mae'r etholaeth yn nodedig am yr isetholiad a gynhaliwyd yno ym 1966, lle etholwyd Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, ac am etholiad cyffredinol Chwefror 1974 pa bryd fethodd Evans gael ei ailethol o ddim ond 3 pleidlais. Mae pob ward o fewn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr etholaeth ei ddileu yn ei ffurf wreiddiol ar gyfer etholiad cyffredinol 1997, ond fe'i hailsefydlwyd ar gyfer etholiad cyffredinol 2024.

Ffiniau

golygu

Ailsefydlwyd yr etholaeth fel 'Caerfyrddin' fel rhan o Adolygiad Cyfnodol 2023 o etholaethau San Steffan ac o dan gynigion terfynol Mehefin 2023 y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024.[1]

Abergwili, Twyn-yr-Odyn, Peniel, Bridell, Rhydaman, Y Betws, Gogledd a De Caerfyrddin, Gorllewin Tref Caerfyrddin, Cenarth a Llangeler, Dre-fach Felindre, Cil-y-cwm, Gwarter Bach, Cynwyl Elfed, Garnant, Glanaman, Trefgordd Talacharn, Llanboidy, Llanddarog, Llandeilo, Llanymddyfri, Llandybie, Tŷ-croes, Pen-y-banc, Llanegwad, Llanfihangel Aberbythych, Pen-y-groes, Saron, Rhydaman, Llanfihangel-ar-Arth, Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llangadog, Bethlehem, Capel Gwynfe, Llangynnwr, Nant-y-caws, Pwll-trap, Bancyfelin, Login, Pibwr-lwyd, Cilymaenllwyd, Llanybydder, Manordeilo a Salem, Maenordeilo a Salem, Penygroes, Saron, Sanclêr gyda Llansteffan, Trelech a Hendy-gwyn.

Aelodau seneddol

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1918 John Hinds Rhyddfrydol (clymblaid)
1923 Ellis Jones Ellis-Griffith Rhyddfrydol
1924 Alfred Mond Rhyddfrydol
1926 Ceidwadwyr
1928 William Nathaniel Jones Rhyddfrydol
1929 Daniel Hopkin Llafur
1931 Richard Thomas Evans Rhyddfrydol
1935 Daniel Hopkin Llafur
1941 Goronwy Moelwyn Hughes Llafur
1945 Rhys Hopkin Morris Rhyddfrydol
1957 Megan Lloyd George Llafur
1966 Gwynfor Evans Plaid Cymru
1970 Gwynoro Jones Llafur
Hyd 1974 Gwynfor Evans Plaid Cymru
1979 Dr Roger Thomas Llafur
1987 Alan Wynne Williams Llafur
2024 Ann Davies Plaid Cymru

Etholiad 1918

golygu

Etholiad cyffredinol 1918: John Hinds yn ennill y sedd i'r Rhyddfrydwyr yn ddiwrthwynebiad.

Etholiadau yn y 1920au

golygu
 
John Hinds
Etholiad cyffredinol 1922: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 36,213

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwr Cenedlaethol John Hinds 12,530 41.9
Ceidwadwyr George William R. V. Coventry 8,805 29.4
Plaid yr Amaethwyr (NFU) Daniel Johns 4,775 15.9
Rhyddfrydol H. Llewelyn-Williams 3,847 12.8
Mwyafrif 3,725 12.5
Y nifer a bleidleisiodd 29,957 76.9
 
Ellis Jones Ellis-Griffith
Etholiad cyffredinol 1923: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 36,779

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Ellis Jones Ellis-Griffith 12,988 45.1
Unoliaethwr Syr Arthur Stephens 8,677 30.1
Llafur R Williams 7,132 24.8
Mwyafrif 4,311 15.0
Y nifer a bleidleisiodd 28,797 78.3

Ymddiswyddodd Syr Ellis Jones Ellis-Griffith ym 1924 a chynhaliwyd isetholiad i ddewis ei olynydd:

 
Syr Alfred Mond
Isetholiad Caerfyrddin 1924

Nifer y pleidleiswyr 36,604

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Alfred Mond 12,760 43.9
Llafur Parch Edward Teilo Owen 8,351 28.8
Ceidwadwyr Syr Arthur Stephens 7,896 27.3
Mwyafrif 4,409 15.1
Y nifer a bleidleisiodd 29,007 79.2
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1924: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 37,155

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Alfred Mond 17281 68.5
Llafur Parch Edward Teilo Owen 7,953 31.5
Mwyafrif 9,328 37.0
Y nifer a bleidleisiodd 25,234 67.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Oherwydd anghydweld a pholisi David Lloyd George i genedlaetholi tir amaethyddol trodd Mond ei gôt gan ymuno a'r Blaid Geidwadol ym 1926.

 
William Nathaniel Jones

Ym 1928 dyrchafwyd Mond i Dŷ'r Arglwyddi a chynhaliwyd isetholiad i ddewis olynydd iddo:

Isetholiad Caerfyrddin 1928

Nifer y pleidleiswyr 37,482

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Nathaniel Jones 10,201 35.5
Llafur Daniel Hopkin 10,154 35.4
Ceidwadwyr Sir Courtenay Cecil Mansel 8,361 29.1
Mwyafrif 47 0.1
Y nifer a bleidleisiodd 30,316 76.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1929: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 46,110

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Daniel Hopkin 15,130 38.2
Rhyddfrydol William Nathaniel Jones 14,477 36.6
Ceidwadwyr John Bonynge Coventry 9,961 25.2
Mwyafrif 653 1.6
Y nifer a bleidleisiodd 39,568 85.8
Llafur yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Etholiadau yn y 1930au

golygu
Etholiad cyffredinol 1931: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 46,507

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Richard Thomas Evans 15,532 39.6
Llafur Daniel Hopkin 14,318 36.4
Ceidwadwyr D Davies-Evans 9,434 24.0
Mwyafrif 4,571 3.1
Y nifer a bleidleisiodd 39,284 84.5
Rhyddfrydol yn disodli Llafur Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1935: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 48.217

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Daniel Hopkin 18,146 36.4
Rhyddfrydol Richard Thomas Evans 12,911 33.8
Ceidwadwyr Edward Orlando Kellett 7,177 18.8
Mwyafrif 5,235 13.7
Y nifer a bleidleisiodd 38,234 79.3
Llafur yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Etholiadau yn y 1940au

golygu

Ym 1941 cafodd Hopkin ei benodi yn ynad cyflogedig yn Llundain gan sefyll i lawr o'r Senedd. O dan drefniadaeth rhwng y tair plaid fawr i beidio cystadlu isetholiadau yn erbyn ei gilydd yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd cafodd Goronwy Moelwyn Hughes ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Lafur.

Etholiad cyffredinol 1945: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 50,462

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Rhys Hopkin Morris 19,783 51.7
Llafur Goronwy Moelwyn Hughes 18,504 48.3
Mwyafrif 1,279 3.3
Y nifer a bleidleisiodd 38,287 75.9
Rhyddfrydol yn disodli Llafur Gogwydd

Etholiadau yn y 1950au

golygu
Etholiad cyffredinol 1950: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 58,444

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Rhys Hopkin Morris 24,472 50.2
Llafur Arwyn Lynn Ungoed-Thomas 24,285 49.8
Mwyafrif 187 0.4
Y nifer a bleidleisiodd 48,759 83.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1951: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 58,709

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Rhys Hopkin Morris 25,632 50.5
Llafur David Owen 25,165 49.5
Mwyafrif 467 0.92
Y nifer a bleidleisiodd 50,795 86.5
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1955: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 57,956

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Rhys Hopkin Morris 24,410 49.5
Llafur Jack Evans 21,077 42.7
Plaid Cymru Jennie Eirian Davies 3,835 7.8
Mwyafrif 3,333 6.8
Y nifer a bleidleisiodd 49,320 85.1
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Bu farw Syr Rhys Hopkin Morris ar 22 Tachwedd 1956 [2] a chynhaliwyd isetholiad ar 27 Chwefror 1957 i ganfod olynydd iddo:

Isetholiad caerfyrddin 1957

Nifer y pleidleiswyr 57,183

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Y Fonesig Megan Lloyd George 23,679 47.3
Rhyddfrydol John Morgan Davies 20,610 41.2
Plaid Cymru Jennie Eirian Davies 5,741 11.5
Mwyafrif 3,069 6.1
Y nifer a bleidleisiodd 43,762 87.5
Llafur yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1959: Etholaeth Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 57,195

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Y Fonesig Megan Lloyd George 23,399 47.89
Rhyddfrydol Alun Talfan Davies 16,766 34.32
Ceidwadwyr J B Evans 6,147 12.58
Plaid Cymru Hywel Heulyn Roberts 2,545 5.21
Mwyafrif 6,633 13.58
Y nifer a bleidleisiodd 48,855 85.42
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1960au

golygu
Etholiad Cyffredinol 1964: Caerfyrddin[3]

Nifer y pleidleiswyr 55,786

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Y Fonesig Megan Lloyd George 21,424 45.5 -2.4
Rhyddfrydol Alun Talfan Davies 15,210 32.3 -2.0
Plaid Cymru Gwynfor Evans 5,495 11.7 +6.4
Ceidwadwyr Mrs. HE Protheroe-Beynon 4,996 10.6 -2.0
Mwyafrif 6,214 13.2 -0.4
Y nifer a bleidleisiodd 47,122 84.4 -0.9
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad Cyffredinol 1966: Caerfyrddin[4]

Nifer y pleidleiswyr 55,669

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Megan Lloyd George 21,221 46.2 +0.7
Rhyddfrydol D Hywel Davies 11,988 26.1 -6.2
Plaid Cymru Gwynfor Evans 7,416 16.1 +4.5
Ceidwadwyr Simon J Day 5,338 11.6 +1.0
Mwyafrif 9,233 20.1 +6.9
Y nifer a bleidleisiodd 45,960 82.6 -1.9
Llafur yn cadw Gogwydd
Isetholiad Caerfyrddin, 1966:Caerfyrddin

Nifer y pleidleiswyr 55,669

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Gwynfor Evans 16,179 39.0
Llafur Gwilym Prys Davies 13,743 33.1
Rhyddfrydol D Hywel Davies 8,650 20.8
Ceidwadwyr Simon J Day 2,934 7.1
Mwyafrif 2,436 5.9
Y nifer a bleidleisiodd
Plaid Cymru yn disodli Llafur Gogwydd

Etholiadau yn y 1970au

golygu
Etholiad Cyffredinol 1970: Caerfyrddin[5]

Nifer y pleidleiswyr 58,904

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Gwynoro Jones 18,719 38.0
Plaid Cymru Gwynfor Evans 14,812 30.1
Rhyddfrydol Hywel Gruffydd E Thomas 10,707 21.7
Ceidwadwyr Lloyd Harvard Davies 4,975 10.1
Mwyafrif 3,907 7.9
Y nifer a bleidleisiodd 49,214 83.5
Llafur yn disodli Plaid Cymru Gogwydd
Etholiad Gyffredinol Chwefror 1974: Caerfyrddin[6]

Nifer y pleidleiswyr

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Gwynoro Jones 17,165 34.3
Plaid Cymru Gwynfor Evans 17,162 34.3
Rhyddfrydol D O Jones 9,698 19.4
Ceidwadwyr W J N Dunn 6,037 12.1
Mwyafrif 3 0.01%
Y nifer a bleidleisiodd 83.5
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad Cyffredinol, Hydref 1974: Caerfyrddin[7]

Nifer y pleidleiswyr

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Gwynfor Evans 23,325 45.1
Llafur Gwynoro Jones 19,685 38.1
Rhyddfrydol DR Owen-Jones 5,393 10.4
Ceidwadwyr Robert Hayward 2,962 5.7
British Candidate E B Jones 342 0.7
Mwyafrif 3,640 7.0
Y nifer a bleidleisiodd 51,704 85.6
Plaid Cymru yn disodli Llafur Gogwydd
Etholiad Cyffredinol, 1979: Caerfyrddin[8]

Nifer y pleidleiswyr

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Dr Roger Thomas 18,667 35.9
Plaid Cymru Gwynfor Evans 16,689 32.0
Ceidwadwyr N M Thomas 12,272 23.6
Rhyddfrydol Richard Clement Charles Thomas 4,186 8.0
Ffrynt Cenedlaethol Charlie Grice 149 0.3
New Britain Party EJ Clarke 126 0.2
Mwyafrif 1,978 3.8
Y nifer a bleidleisiodd 52,086 84.4
Llafur yn disodli Plaid Cymru Gogwydd

Etholiadau yn y 1980au

golygu
Etholiad Cyffredinol, 1983: Caerfyrddin[9]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Dr Roger Thomas 16,459 31.57%
Ceidwadwyr N M Thomas 15,305 29.36%
Plaid Cymru Gwynfor Evans 14,099 27.05%
Cyngrhair Dem Cym - Rhyddfrydol J Colin 5,737 11.01%
Plaid Ecoleg B Kingzett 374 0.72%
BNP Charlie Grice 154 0.3%
Mwyafrif 1,154 2.21%
Y nifer a bleidleisiodd 52,126 82.13%
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad Cyffredinol, 1987: Caerfyrddin[10]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Alan Wynne Williams 19,128 35.37
Ceidwadwyr Rod Richards 14,811 27.39
Plaid Cymru Hywel Teifi Edwards 12,457 23.03
Cyngrhair Dem Cym - Rhyddfrydol Gwynoro Jones 7,203 13.32
Gwyrdd G E Oubridge 481 0.89
Mwyafrif 4,317 7.98
Y nifer a bleidleisiodd 54,080 82.88
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1990au

golygu
Etholiad Cyffredinol 1992: Caerfyrddin[11]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Alan Wynne Williams 20,879 36.6 +1.3
Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas 17,957 31.5 +8.5
Ceidwadwyr Stephen J. Cavenagh 12,782 22.4 −5.0
Democratiaid Rhyddfrydol Juliana M.J. Hughes 5,353 9.4 −3.9
Mwyafrif 2,922 5.1 −2.9
Y nifer a bleidleisiodd 56,971 82.7 −0.1
Llafur yn cadw Gogwydd −3.6

Diddymwyd y sedd ar gyfer etholiad 1997 a'i olynu gan etholaethau Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ail sefydlwyd ar gyfer etholiad 2024

Canlyniadau Etholiadau yn y 2020au

golygu
Etholiad cyffredinol 2024: Caerfyrddin[12]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Ann Davies 15,520 34.0
Llafur Martha O'Neil 10,985 24.1
Ceidwadwyr Cymreig Simon Hart 8,825 19.4
Reform UK Bernard Holton 6,944 15.2
Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Nick Beckett 1,461 3.2
Y Blaid Werdd Will Beasley 1,371 3.0
Plaid Cydraddoldeb Menywod Nancy Cole 282 0.6
Plaid Gweithwyr Prydain David Mark Evans 216 0.5
Pleidleisiau a ddifethwyd
Mwyafrif 4,535 9.9%
Nifer pleidleiswyr 45,604 62%
Etholwyr cofrestredig 74,003
Plaid Cymru ennill (sedd newydd)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 2023 Y Comisiwn Ffiniau i Gymru - The 2023 Review of Parliamentary Constituencies in Wales (PDF). Y Comisiwn Ffiniau i Gymru. 28 June 2023.
  2. Y Bywgraffiadur ar lein http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-MORR-HOP-1888.html adalwyd Chwef 16 2014
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2014-02-17.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2014-02-17.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-11. Cyrchwyd 2014-02-17.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2014-02-17.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-28. Cyrchwyd 2014-02-17.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2014-02-17.
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-17. Cyrchwyd 2014-02-17.
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-05. Cyrchwyd 2014-02-17.
  11. "Politics Resources". Election 1992. Politics Resources. 9 April 1992. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-15. Cyrchwyd 16 Chwef 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  12. BBC Cymru Fyw, Canlyniadau Caerfyrddin