Anna Arqué
Mae Anna Arqué (ganwyd 8 Mai 1972) yn ymgynghorydd, yn weithredwr dros annibyniaeth ac yn wleidydd o Gatalwnia.[1] Yn ogystal â Chatalwneg, Sbaeneg, Saesneg ac Almaeneg, mae hefyd yn siarad Portiwgaleg ac Eidaleg ac mae wedi byw mewn sawl gwlad. Mae'n Is-Reithor Prifysgol yr Haf, Catalwnia. Mae'n un o sefydlwyr ICEC, y mudiad rhyngwladol dros hyrwyddo hunanlywodraeth.
Anna Arqué | |
---|---|
Anna Arqué yn 2019 | |
Ganwyd | 8 Mai 1972 Lleida |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Astudiodd fusnes ym Mhrifysgol Lleida a phan adawodd, aeth i fyw i Lisbon, lle bu'n gweithio fel model. Yn ddiweddarach ymsefydlodd yn Llundain lle bu'n gweithio fel ymgynghorydd mewn strategaethau cyfathrebu, gan weithio i sawl cwmni.[2]
Yn 2009, bu'n ymwneud â'r llwyfan annibynnol 'Deg Mil ym Mrwsel'. Yn fuan wedyn, fe'i hetholwyd yn gomisiynydd y Pwyllgor Cyfathrebu Rhyngwladol a Chydlynydd Cenedlaethol yr Ymgynghoriadau (Internacional i de Comunicació de la Coordinadora Nacional de les Consultes). Gadawodd ei swydd pan oedd yn rhan o'r rhestr etholiadol gyda Solidaritat Catalana per la Independència yn etholiadau 2010, pan na chafodd ei hethol.[3] Mae hefyd yn siaradwr dros Gatalwnia ar Gomisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewropeaidd (ICEC) ac yn llefarydd i Gymdeithas Addysg Gynradd Catalonia.[4][5]
Barn
golyguMewn cyfweliad gyda'r wefan Fasgeg Naziogintza, dywed i Llywodraeth Catalwnia oedi, wedi iddynt ddatgan "Datganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i bobl Catalwnia Benderfynu eu Dyfodol eu Hunain" ar 23 Ionawr 2013. Yn ei barn hi, ofn oedd yn gyfrifol am hyn, oherwydd bygythiad Llywodraeth Sbaen. Llefarodd Llywodraeth Catalwnia dros y bol, yn hytrach na'r ffordd arall, meddai. Oherwydd i Sbaen synhwyro ofn, aethpwyd ati i erlyn prif swyddogion y Llywodraeth.[6] Ei chyngor i genedlaetholwyr Basgaidd yw na ddylid oedi, dangos ofn nac ildio yn eu brwydr dros annibyniaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Anna Arqué, el nucli irradiador". Cyrchwyd 2018-12-22.
- ↑ "ENTREVISTA: ANNA ARQUÉ". Cyrchwyd 2018-12-22.[dolen farw]
- ↑ "Bertran i Arqué deixen la Coordinadora de les Consultes | NacióDigital". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-22. Cyrchwyd 2018-12-22. Unknown parameter
|cognom=
ignored (help); Unknown parameter|llengua=
ignored (help) - ↑ "www.icec.ngo". Cyrchwyd 2018-12-22.
- ↑ "Anna Arqué: 'Cap Estat ens va reconèixer públicament perquè el Govern no va assumir la declaració d'independència'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-22. Cyrchwyd 2018-12-22. Unknown parameter
|data=
ignored (|date=
suggested) (help); Unknown parameter|llengua=
ignored (help) - ↑ naziogintza.eus; ANNA ARQUÉ, THE POWER OF CATALONIA’S RESILIENCE: “THE GOVERNMENT OF CATALONIA MISMANAGED THE VICTORY OF 1st OCTOBER 2017”; adalwyd 16 Mai 2019.