Anna, Duges Llydaw
(Ailgyfeiriad o Anna o Lydaw)
Y Dduges Anna neu Anna o Lydaw (Llydaweg: Anna Vreizh; 25 Ionawr 1477 – 9 Ionawr 1514) oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol.[1]
Anna, Duges Llydaw | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ionawr 1477 Château des ducs de Bretagne |
Bu farw | 9 Ionawr 1514 Blois |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | un neu fwy o deulu brenhinol |
Tad | Ffransis II |
Mam | Margaret of Foix |
Priod | Siarl VIII, brenin Ffrainc, Louis XII, brenin Ffrainc, Maximilian I |
Plant | Charles Orlando, Dauphin Ffrainc, Claude o Ffrainc, Renée o Ffrainc, Charles de France, François de France, Anne de France |
Perthnasau | Anne o Foix-Candale, Germaine o Foix, Catherine of Navarre, Leonor I o Navarre |
Llinach | House of Dreux |
llofnod | |
Ganed hi yn Naoned, yn ferch i Francis II, Dug Llydaw, ac yn etifedd y ddugiaeth. Yn 1488 gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r Swistir a'r Eidal. Gorfodwyd Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas Anna. Gorfodwyd hi i briodi Louis XII, brenin Ffrainc, brenin Ffrainc, ac wedi ei marwolaeth ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn 1532.
Trwy briodas, roedd hi hefyd yn dal y teitlau canlynol:
- archdduges Awstria a Brenhines Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (1490-1491);
- Brenhines Ffrainc (1491-1498) a Brenhines Sisili a Jeriwsalem;
- Brenhines Ffrainc eto (1499-1514) a Duges Milan.
Priododd ei merch Claude (13 Hydref 1499 – 26 Gorffennaf 1524) Ffransis I, brenin Ffrainc.
Rhagflaenydd: Francis II |
Dug Llydaw 1488–1514 |
Olynydd: Klaoda Bro-C'hall |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A. S. Korteweg (2004). Splendour, Gravity & Emotion: French Medieval Manuscripts in Dutch Collections (yn Saesneg). Waanders. t. 153. ISBN 978-90-400-9630-3.