Anna, Duges Llydaw
(Ailgyfeiriwyd o Anne o Lydaw)
Y Dduges Anna neu Anna o Lydaw (Llydaweg: Anna Vreizh; 25 Ionawr 1477 – 9 Ionawr 1514) oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol.[1]
Anna, Duges Llydaw | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Ionawr 1477 ![]() Château des ducs de Bretagne ![]() |
Bu farw | 9 Ionawr 1514 ![]() Blois ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | un neu fwy o deulu brenhinol ![]() |
Tad | Ffransis II ![]() |
Mam | Margaret of Foix ![]() |
Priod | Siarl VIII, brenin Ffrainc, Louis XII, brenin Ffrainc, Maximilian I ![]() |
Plant | Charles Orlando, Dauphin Ffrainc, Claude o Ffrainc, Renée o Ffrainc, Charles de France, François de France, Anne de France ![]() |
Perthnasau | Anne o Foix-Candale, Germaine o Foix, Catherine of Navarre, Leonor I o Navarre ![]() |
Llinach | House of Dreux ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed hi yn Naoned, yn ferch i Francis II, Dug Llydaw, ac yn etifedd y ddugiaeth. Yn 1488 gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r Swistir a'r Eidal. Gorfodwyd Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas Anna. Gorfodwyd hi i briodi Louis XII, brenin Ffrainc, brenin Ffrainc, ac wedi ei marwolaeth ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn 1532.
Trwy briodas, roedd hi hefyd yn dal y teitlau canlynol:
- archdduges Awstria a Brenhines Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (1490-1491);
- Brenhines Ffrainc (1491-1498) a Brenhines Sisili a Jeriwsalem;
- Brenhines Ffrainc eto (1499-1514) a Duges Milan.
Priododd ei merch Claude (13 Hydref 1499 – 26 Gorffennaf 1524) Ffransis I, brenin Ffrainc.
Rhagflaenydd: Francis II |
Dug Llydaw ![]() 1488–1514 |
Olynydd: Klaoda Bro-C'hall |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A. S. Korteweg (2004). Splendour, Gravity & Emotion: French Medieval Manuscripts in Dutch Collections (yn Saesneg). Waanders. t. 153. ISBN 978-90-400-9630-3.