Anthony Asquith
Roedd Anthony William Lars Asquith (9 Tachwedd 1902 – 20 Chwefror 1968) yn gyfarwyddwr ffilmiau Seisnig amlwg. Cydweithiodd yn llwyddiannus gyda'r dramodydd Terence Rattigan ar The Winslow Boy (1948), The Browning Version (1951), ymysg addasiadau eraill. Mae ei ffilmiau nodedig eraill yn cynnwys Pygmalion (1938), French Without Tears (1940), The Way to the Stars (1945) ac addasiad 1952 o The Importance of Being Earnest gan Oscar Wilde.[1]
Anthony Asquith | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1902 Llundain |
Bu farw | 20 Chwefror 1968, 21 Chwefror 1968 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, cyfarwyddwr |
Tad | Herbert Henry Asquith |
Mam | Margot Asquith |
Bywyd a gyrfa
golyguGaned Asquith yn Llundain, yn fab i Herbert Henry Asquith, Prif Weinidog Y Deyrnas Unedig rhwng 1908 i 1916, a Margot Asquith ei wraig [2] Addysgwyd ef yn Eaton House,[3]. Coleg Winchester a Choleg Balliol, Rhydychen.
Ystyriwyd bod y diwydiant ffilm yn anghydnaws fel swydd i bobl barchus pan oedd Asquith yn ifanc,[4] ac yn ôl yr actor Jonathan Cecil, ffrind teuluol, daeth Asquith i'r proffesiwn er mwyn dianc o'i gefndir. Ar ddiwedd y 1920au, dechreuodd ei yrfa trwy gyfarwyddo pedair ffilm fud. Bu llwyddiant yr olaf o'r rhain, A Cottage on Dartmoor, yn fodd sefydlu ei enw da gyda'i gyfansoddiad ffrâm symudol, aml yn emosiynol. Roedd Pygmalion (1938) yn seiliedig ar ddrama George Bernard Shaw yn serennu Leslie Howard a Wendy Hiller.
Roedd Asquith yn ffrind hir dymor a chydweithiwr a Terence Rattigan (bu iddynt gydweithredu ar ddeg ffilm) a'r cynhyrchydd Anatole de Grunwald. Ymhlith ei ffilmiau diweddarach roedd The Winslow Boy (1948), Browning Version(1951), ill dau yn seiliedig ar ddramâu Rattigan a The Importance of Being Earnest (1952) seiliedig ar ddrama Oscar Wilde.
Marwolaeth
golyguBu farw ym 1968. Fe'i claddwyd yn All Saints Churchyard, Sutton Courtenay, ym Mro'r Ceffyl Gwyn.
Filmograffi
golyguFffilmiau nodwedd
golygu- Shooting Stars (1927)
- Underground (1928)
- The Runaway Princess (1929)
- A Cottage on Dartmoor (1929)
- Tell England (1931)
- Dance Pretty Lady (1932)
- The Lucky Number (1933)
- Letting in the Sunshine (1933)
- Unfinished Symphony (1934)
- Moscow Nights (1935)
- Pygmalion (1938)
- French Without Tears (1940)
- Freedom Radio (1941)
- Quiet Wedding (1941)
- Cottage to Let (1941)
- Uncensored (1942)
- We Dive at Dawn (1943)
- The Demi-Paradise (1943)
- Fanny by Gaslight (1944)
- The Way to the Stars (1945)
- While the Sun Shines (1947)
- The Winslow Boy (1948)
- The Woman in Question (1950)
- The Browning Version (1951)
- The Importance of Being Earnest (1952)
- The Final Test (1953)
- The Net (1953)
- The Young Lovers (1954)
- Carrington V.C. (1955)
- On Such a Night (1955)
- Orders to Kill (1958)
- The Doctor's Dilemma (1958)
- Libel (1959)
- The Millionairess (1960)
- Two Living, One Dead (1961)
- Guns of Darkness (1962)
- The V.I.P.s (1963)
- The Yellow Rolls-Royce (1965)
Ffilmiau fer
golygu- The Story of Papworth (1935)[5]
- Channel Incident (1940)
- Rush Hour (1941)
- Two Fathers (1944)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (2011, January 06). Asquith, Anthony (1902–1968), film director and aesthete. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 22 Medi 2018
- ↑ Screen online Anthony Asquith adalwyd 22 Medi 2018
- ↑ "Mr T.S. Morton". The Times. 23 Ionawr 1962
- ↑ The Guardian 6 Chwefror 2003 The Asquith version adalwyd 22 Medi 2018
- ↑ The Times, 14 Rhagfyr 1935, p. 11.