Anthony Edward Pierce
Esgob Abertawe ac Aberhonddu ydy Anthony Edward Pierce, etholwyd ef i'r swydd yn Ionawr 1999 ac fe’i cysegrwyd yn Esgob ar 24 Ebrill. Cafodd ei eni a’i fagu yn Abertawe a mynychodd Ysgol Uwchradd Sirol Dinefwr. Darllenodd hanes ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ac yna diwinyddiaeth yn Rhydychen tra’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn Neuadd Ripon.
Anthony Edward Pierce | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ionawr 1941 |
Bu farw | 2010 |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Ordeiniwyd yn ddiacon yn 1965 ac yn offeiriad blwyddyn yn ddiweddarach, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi plwyf a hefyd fel Caplan Anglicanaidd ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ac yn Ysbyty Singleton, Abertawe. Bu’n Archddiacon Gŵyr rhwng 1995 ac 1999. Yn ogystal â’i gyfrifoldebau esgobaethol, mae ar hyn o bryd yn aelod o gyngor Prifysgol Cymru Abertawe, yn lywodraethwr Coleg Crist, Aberhonddu, is-gadeirydd Grŵp Tai Gwalia, llywydd cyfeillion Gŵyl Abertawe ac yn ymwneud yn agos â gwaith Urdd Sant Ioan, Cymru. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, ymweld â’r theatr a garddio.
Rhagflaenydd: Dewi Bridges |
Esgob Abertawe ac Aberhonddu 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |