Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta
Llyfr gramadeg Cymraeg gan John Davies o Fallwyd yw'r Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta (sef "Elfennau'r ... Iaith Brydeinig Hynafol"), a gyhoeddwyd yn 1621. Lladin - iaith ysgolheictod rhyngwladol y Dadeni Dysg - yw iaith y llyfr ar wahân i eiriau ac ymadroddion Cymraeg enghreifftiol yn y testun.
Enghraifft o'r canlynol | gramadeg |
---|
Cynnwys
golyguDyma waith mwyaf enwog y Dr John Davies (1567-1644). Yn ôl Thomas Parry yn ei gyfrol Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, mae'r llyfr hwn yn "gampwaith mewn gramadeg" sy'n dangos mai John Davies oedd "un o dri neu bedwar ysgolhaig mwyaf Cymru."[1]
Yn ogystal â'r disgrifiad o ramadeg yr iaith Gymraeg, ceir pennod ar fesurau Cerdd Dafod ar ddiwedd y llyfr sy'n disgrifio'r Pedwar mesur ar hugain ac yn cymharu barddoniaeth Gymraeg a barddoniaeth Hebraeg.[1]
Rhagflaenir testun y gramadeg gan Lythyr Annerch at Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionnydd.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Testun
- John Davies, Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta *Llundain: John Bill, 1621)[2]
- Adargraffiad ffacsimili (Menston: Scolar Press, 1968)
Ceir cyfieithiad Cymraeg o'r rhagymadrodd Lladin yn,
- Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin, 1551-1632 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), pennawd IX