Antología de la literatura fantástica
Antholeg o ryddiaith a barddoniaeth ffantasi yn yr iaith Sbaeneg yw Antología de la literatura fantástica a gyhoeddwyd gan Editorial Sudamericana (Buenos Aires) yn 1940 dan olygyddiaeth Jorge Luis Borges, Adolfo Bioy Casares, a Silvina Ocampo, tri o brif lenorion yr Ariannin yn yr 20g.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | Adolfo Bioy Casares, Jorge Luis Borges, Silvina Ocampo |
Cyhoeddwr | Editorial Sudamericana (Buenos Aires) |
Gwlad | Yr Ariannin |
Iaith | Sbaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1940 |
Genre | ffantasi |
Egyr y gyfrol gyda rhaglith bolemig gan Bioy Casares sydd yn canmol genre ffantasi ac yn lladd ar realaeth sosialaidd a costumbrismo. Straeon byrion a droswyd o'r Saesneg ydy'r mwyafrif o ddetholion, a hefyd cyfieithiadau o Almaeneg, Ffrangeg, ac ambell iaith arall. Mae'r ychydig o ddetholion o awduron Sbaeneg yn cynnwys straeon byrion gan Leopoldo Lugones, Manuel Peyrou, a Borges.[1]
Cyhoeddwyd yr ail argraffiad yn 1965, a hynny'n cynnwys rhagor o ddetholion Sbaeneg. Ymhlith yr ychwanegiadau mae straeon byrion gan Elena Garro, H. A. Murena, a Juan Rodolfo Wilcock, yn ogystal â holl destun y nofel fer Sombras suele vestir (1941), a ysgrifennwyd gan José Bianco ar gyfer yr argraffiad cyntaf ond oedd heb ei gorffen o fewn amser. Ysgrifennodd Ocampo a Bioy Casares hefyd straeon newydd ar gyfer yr ail argraffiad.[1]
Cyhoeddwyd argraffiad Saesneg o'r gyfrol, The Book of Fantasy, gan Viking (Efrog Newydd) yn 1988 gyda rhagymadrodd gan Ursula K. Le Guin, a chyfieithiad Portiwgaleg, Antologia da literatura fantástica, gan Cosac Naify (São Paulo) yn 2013.
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- Daniel Balderston, "La Antología de la literatura fantástica y sus alrededores", Casa de las Américas 229 (2002), tt. 104–10.