Bardd, llenor straeon byrion ac ysgrifwr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Leopoldo Lugones (13 Mehefin 187418 Chwefror 1938). Roedd yn brif ffigur llên yr Ariannin yn nechrau'r 20g ac yn un o'r hoelion wyth ym mywyd diwylliannol ei wlad. Yn ogystal â'i gerddi a'i straeon, mae'n nodedig am ei newyddiaduraeth wleidyddol, ei feirniadaeth lenyddol, ei weithiau hanes am yr Ariannin, a'i ysgolheictod clasurol a chyfieithiadau o lenyddiaeth Hen Roeg. Ysgrifennodd hefyd un nofel, El ángel de la sombra (1926).

Leopoldo Lugones
GanwydLeopoldo Antonio Lugones Argüello Edit this on Wikidata
13 Mehefin 1874 Edit this on Wikidata
Villa de María del Río Seco Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1938 Edit this on Wikidata
o gwenwyno gan syanid Edit this on Wikidata
Tigre Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa Guerra Gaucha, Las fuerzas extrañas, Cuentos (Lugones) Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/auPremio Nacional de Literatura de Argentina Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Villa María del Río Seco, Talaith Córdoba, yn yr Ariannin. Cychwynnodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn 16 oed drwy ysgrifennu erthyglau ar gyfer papur newydd lleol yn Córdoba. Yn 1896 symudodd i'r brifddinas Buenos Aires, a chyd-sefydlodd y cylchgrawn sosialaidd La montaña yn 1897. Mynegodd ei gredoau adain-chwith yn gryf yn y cyhoeddiad hwnnw, ac mewn ambell ysgrif mae'n dadlau dros syniadau anarchaidd.[1]

Roedd Lugones yn un o sawl bardd arbrofol a ddilynai esiampl Rubén Darío, y llenor o Nicaragwa a sbardunodd modernismo yn llên America Ladin. Amlygir ei ymlyniad wrth amcanion y modernwyr yn ei gyfrolau o farddoniaeth rydd, Las montañas del oro (1897), Los crepúsculos del jardín (1905), a Lunario sentimental (1909), sy'n defnyddio delweddaeth wreiddiol a lliwgar. Er ei farnau radicalaidd, penodwyd Lugones i swyddi cyhoeddus gan gynnwys cyfarwyddwr dros archifau'r swyddfa bost yn 1899 a phrif arolygydd yr ysgolion uwchradd yn 1904. Gwrthwynebodd y chwyldroadwyr tra rhyddfrydol a geisiai cipio grym yn 1904, a beirniadodd yr Arlywydd José Figueroa Alcorta (1906–10) yn hallt.[1]

Symudodd Lugones i Baris yn 1911, ac yno golygodd y Revue Sudaméricaine.[2] Dychwelodd i'r Ariannin ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, a gwelsai newid yn ei daliadau gwleidyddol yn y cyfnod hwn. Trodd ei gefn ar sosialaeth radicalaidd ei ieuenctid, a chofleidiodd genedlaetholdeb ceidwadol. Adlewyrchai'r dröedigaeth hon yn ei lenyddiaeth: rhoes y gorau i'r hen modernismo a dechreuodd ysgrifennu am themâu cenedlaetholgar, mewn arddull realaidd. Er enghraifft, mae El libro de los paisajes (1917) yn gasgliad o eidyliau sy'n moli harddwch cefn gwlad yr Ariannin. Ysgrifennodd doreth o draethodau a llyfrau sy'n ymdrin â gwleidyddiaeth, hanes, a diwylliant yr Ariannin, ac mae rhai ohonynt o hyd yn weithiau pwysig yn nhraddodiad deallusol y wlad. Yn sgil ailethol y rhyddfrydwr cymdeithasol Hipólito Irigoyen yn arlywydd yn 1928, datblygodd syniadau Lugones yn fwyfwy militaraidd ac adweithiol. Trodd yn ffasgydd, a chymerodd ran yn y chwyldro adain-dde i ddymchwel Irigoyen ym Medi 1930.[1]

Roedd Lugones yn amlwg fel llysgennad diwylliannol dros ei wlad. Gwasanaethodd yn gyfarwyddwr y Cyngor Addysg Cenedlaethol o 1914 i 1938, a chynrychiolodd yr Ariannin ym Mhwyllgor Cynghrair y Cenhedloedd dros Gydweithrediad Deallusol yn 1924. Dylanwadodd yn gryf ar y to iau o lenorion Archentaidd, yn eu plith Jorge Luis Borges, a gosododd sail i ddatblygiadau addysg, celf a llên yr Ariannin.[2]

Bu farw yn 63 oed trwy hunanladdiad.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Myron I. Lichtblau, "Lugones, Leopoldo (1874–1938)", Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 14 Ebrill 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Leopoldo Lugones. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Efraín U. Bischoff, Leopoldo Lugones: Un cordobés rebelde (Córdoba: Editorial Brujas, 2005).
  • Alfredo Canedo, Aspectos del pensamiento político de Leopoldo Lugones (1974).
  • Julio Irazusta, Genio y figura de Leopoldo Lugones (1968).
  • Félix Luna, Leopoldo Lugones (Buenos Aires: Planeta, 2001).