Antoni Malczewski
Bardd Pwylaidd oedd Antoni Malczewski (3 Mehefin 1793 – 2 Mai 1826) sydd yn nodedig am ei gerdd "Maria" (1825), un o weithiau cynhara'r mudiad Rhamantaidd yn llên Gwlad Pwyl.
Antoni Malczewski | |
---|---|
Portread o Antoni Malczewski gan Henryk Piątkowski (diwedd y 19g). | |
Ganwyd | 3 Mehefin 1793 Warsaw |
Bu farw | 2 Mai 1826 Warsaw |
Dinasyddiaeth | Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Duchy of Warsaw, Gwlad Pwyl y Gyngres |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | Q11768683 |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Jan Józef Malczewski |
Llinach | Q63532429, Q63532431 |
Ganed ef yn ystod blynyddoedd olaf y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, naill ai yn Warsaw neu yn Knyaginino, yn fab o deulu cefnog o filwyr a thirfeddianwyr. Cafodd ei fagu yn rhanbarth Volyn, yn y gororau rhwng y Bwyldir a'r Wcráin, a mynychodd yr ysgol yn Krzemieniec. Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, ymunodd â byddin Dugiaeth Warsaw. Cafodd ei ryddhau o wasanaeth milwrol yn sgil buddugoliaeth Ymerodraeth Rwsia yn erbyn Ymerodraeth Napoleon, ac aeth ar grwydr drwy Orllewin Ewrop. Ymsefydlodd yn Wcráin ym 1821, a syrthiodd mewn cariad â Zofia Rucińska, gwraig a oedd yn dioddef gan nerfusrwydd. Bu'r berthynas yn boenus ac yn gywilyddus, ac i osgoi sgandal, ffoes y ddau ohonynt ac ymsefydlasant yn Warsaw.[1]
Ym 1825 cyhoeddodd ei unig waith llenyddol, y gerdd hir "Maria", sydd yn traddodi hanes y gŵr ifanc Wacław wrth iddo frwydro'n erbyn y Tatariaid. Wedi iddo ymlid y goresgynwyr hynny o Wcráin, mae'n dychwelyd i'w gartref, ond i ddarganfod corff ei wraig, Maria, yn farw. Dyma esiampl nodweddiadol a dylanwadol o'r "ysgol Wcreinaidd" ym marddoniaeth Bwyleg y cyfnod, a fe'i ystyrir yn glasur o lenyddiaeth y Pwyliaid.
Rhyw flwyddyn wedi cyhoeddi "Maria", bu farw Antoni Malczewski mewn tlodi yn Warsaw yn 33 oed, o achos anhysbys.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Antoni Malczewski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mawrth 2022.