Antonio Rosmini
Athronydd ac offeiriad o'r Eidal oedd Antonio Rosmini-Serbati (24 Mawrth 1797 – 1 Gorffennaf 1855) sydd yn nodedig am sefydlu'r Institutum Charitatis, urdd Gatholig elusennol ac addysgol a elwir hefyd y Rosminiaid.
Antonio Rosmini | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1797 Rovereto |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1855 Stresa |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, offeiriad, llenor |
Dydd gŵyl | 1 Gorffennaf |
Gwefan | http://www.rosmini.it/Objects/Home1.asp |
Ganed Antonio Rosmini-Serbati ar 24 Mawrth 1797 i deulu bonheddig yn Rovereto, Iarllaeth Tyrol, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Padova cyn iddo gael ei ordeinio ym 1821.[1]
Sefydlwyd yr Institutum Charitatis gan Rosmini yn Domodossola, Piemonte, ym 1828. Dylanwadwyd arno gan Maddalena di Canossa, a sefydlodd y Canosiaid yn Verona ym 1808, a threfnodd Rosmini ei urdd ar batrwm y Iesuwyr. Derbyniodd yr Institutum Charitatis sêl bendith y Pab Grigor XVI ym 1839.[1]
Ysgrifennodd Rosmini o blaid cenedlaetholdeb Eidalaidd yng nghyfnod y Risorgimento a chyfrannodd at adfywiad athroniaeth yn yr Eidal yn y 19g, er enghraifft yn ei dair chyfrol Nuovo saggio sull’origine delle idee (1830). Codai helynt o ganlyniad i'w ddadleuon diwinyddol, a oedd yn ceisio cymodi diwinyddiaeth Gatholig â syniadaeth wleidyddol a chymdeithasol fodern. Yn ei ysgrifau gwleidyddol, rhoddai ei gefnogaeth i genedlaetholdeb ond bu'n lladd ar elfennau gwrthglerigol a gwrth-Gatholig y mudiad hwnnw.
Ym 1848, daeth Rosmini yn gyfeillgar â'r Pab Pïws IX, ac yn sgil y chwyldro yn Rhufain aeth yn alltud gyda'r pab i Gaeta yn Nhachwedd 1848. Er gwaethaf ei gefnogaeth i'r pab, cafodd dau o weithiau Rosmini, a oedd yn dadlau o blaid diwygiadau eglwysig, eu gwahardd gan Gynulliad y Chwilys. Bu farw Rosmini ar 1 Gorffennaf 1855 yn Stresa, Teyrnas Piemonte a Sardinia, yn 58 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Antonio Rosmini-Serbati. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mehefin 2020.