Dinas a chymuned (comune) yn nhalaith Latina yn rhanbarth Lazio, yr Eidal, yw Gaeta. Saif ar benrhyn yng nghanol Gwlff Gaeta. Mae 75 milltir (120 km) o ddinas Rhufain a 50 milltir (80  km) o ddinas Napoli.

Gaeta
Mathcymuned Edit this on Wikidata
PrifddinasGaeta Edit this on Wikidata
Poblogaeth19,423 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Latina Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd29.2 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaItri, Formia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.22°N 13.57°E Edit this on Wikidata
Cod post04024 Edit this on Wikidata
Map

Yn ystod y cyfnod Rhufeinig roedd Gaeta yn gyrchfan wyliau enwog, a fynychid gan ymerawdwyr a phendefigion. Mae heddiw yn borthladd pysgota ac olew, ac yn gyrchfan i dwristiaid. Mae NATO yn cynnal canolfan llynges yno.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Castell
  • Eglwys San Giovanni a Mare
  • Eglwys Santissima Annunziata
  • Mausoleum Lucius Munatius Plancus

Enwogion golygu

  • Pab Gelasius II (c.1060/1064–1119)[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Pham, John-Peter (2004). Heirs of the Fisherman (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 12. ISBN 9780195178340.


Oriel golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato