Antwerp (talaith)
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw talaith Antwerp (Iseldireg: Antwerpen). Hi yw'r fwyaf gogleddol o daleithiau Fflandrys, ac mae'n ffinio ar yr Iseldiroedd yn y gogledd.
Mae gan y dalaith arwynebedd o 2867 km². Hi yw'r fwyaf poblog o daleithiau Gwlad Belg, gyda phoblogaeth o tua 1.7 miliwn. Y brifddinas yw Antwerp. Fel yn holl daleithiau Fflandrys, Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol.