Luxembourg (talaith)
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw Luxembourg (Iseldireg: Luxemburg). Saif yn ne-ddwyrain rhanbarth Walonia, ac mae'n ffinio ar wlad Luxembourg yn y dwyrain ac ar Ffrainc yn y de. Gydag arwynebedd o 4,440 km², hi yw'r fwyaf o daleithiau Gwlad Belg, ond mae'n un o'r lleiaf o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 264,000 yn 2008. Y brifddinas yw Arlon.
Fel yn y rhan fwyaf o ranbarth Walonia, Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol yn y rhan fwyaf o'r dalaith, ond yn yr ardal o gwmpas Arlon ceir siaradwyr Luxembourgeg.