Liège (talaith)
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw Liège (Iseldireg: Luik, Almaeneg: Lüttich). Saif yn nwyrain rhanbarth Walonia, ac mae'n ffinio ar yr Almaen, yr Iseldiroedd a Luxembourg. Mae ganddi arwynebedd o 3,862 km² a phoblogaeth o 1,053,722 yn 2008. Y brifddinas yw dinas Liège.
Fel yn y rhan fwyaf o ranbarth Walonia, Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol yn y rhan fwyaf i'r dalaith, ond yn y dwyrain ger y ffîn a'r Almaen ceir rhai ardaloedd lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Almaeneg fel iaith gyntaf, ac sydd a hawliau ieithyddol arbennig.