Dwyrain Fflandrys
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw talaith Dwyrain Fflandrys (Iseldireg: Oost-Vlaanderen). Saif yn rhanbarth Fflandrys yng ngogledd y wlad, ac mae'n ffinio ar yr Iseldiroedd yn y gogledd. Y brifddinas yw Ghent, sydd ar Afon Schelde.
Mae gan y dalaith arwynebedd o 2,991 km² a phoblogaeth o 1,389,199. Fel yn holl daleithiau Fflandrys, Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol.