Apocryffa'r Hen Destament
Testunau Iddewig hynafol nas cynhwysir yn y Beibl Hebraeg, nac yn y Beibl ymhob enwad Cristnogol, yw Apocryffa'r Hen Destament. Bathwyd yr enw Apocryffa (Groeg: apokryphos, sef "cudd") gan Sant Sierôm yn y 5g i ddisgrifio'r llyfrau a gynhwysir yng nghyfieithiad Groeg yr Hen Destament, y Deg a Thrigain, ond nas cynhwysir yn y Beibl Hebraeg.
Gweithiau isganonaidd
golyguCyfeirir at y testunau a ystyrir yn apocryffaidd gan y Protestaniaid, ond nid gan y Pabyddion a'r Uniongredwyr, yn llyfrau isganonaidd,[1] ailganonaidd,[2] neu'n ddewteroganonaidd.
Trefn y Deg a Thrigain
golyguCynnyrch yr Iddewon Helenistaidd oedd cyfieithiad y Deg a Thrigain. Trosasant testunau Hebraeg, ac ambell ysgrif Aramaeg, i'r iaith Roeg Coine yn y 3g CC. Y llyfrau yn y cyfieithiad yma a ystyriwyd yn anghanonaidd gan Iddewon eraill yw Llyfr Jwdith, Doethineb Solomon, Llyfr Tobit, Llyfr Eclesiasticus (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), Llyfr Baruch, a llyfrau'r Macabeaid (1 a 2). Gweithiau hanesyddol neu ffug-hanesion yw Jwdith a Tobit, a llên ddoethineb yw Doethinebau Solomon a Sirach, yn debyg i Lyfr y Diarhebion, Llyfr Job, a Llyfr y Pregethwr. Ychwanegiad at Lyfr Jeremeia yw Baruch, o safbwynt ysgrifennydd y proffwyd hwnnw. Hanesion yn nhraddodiad llyfrau Samuel (1 a 2), y Brenhinoedd (1 a 2), a'r Croniclau (1 a 2) yw llyfrau'r Macabeaid. Cafodd y gweithiau hyn i gyd eu hystyried y tu allan i'r canon Hebraeg gan ysgolheigion Iddewig yn niwedd y 1g OC. Awgrymodd y hanesydd Heinrich Graetz i'r ysgolheigion hynny gytuno ar y canon yng "Nghyngor Jamnia",[3] ond gwrthodir y ddamcaniaeth hon gan hanesyddion diweddar.[4] Yr enw a roddir yn y Talmwd ar y gweithiau anghanonaidd hyn yw Sefarim Hizonim ("Llyfrau Allanol").
Canonau Cristnogol
golyguYn ogystal â'r llyfrau apocryffaidd a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae sawl gwaith arall a ystyrir yn Apocryffa'r Hen Destament: llyfrau Esdras (1 a 2), yr Ychwanegiadau at Lyfr Esther (Esther 10:4-10), Cân y Tri Llanc (Daniel 3:24-90), Swsanna (Daniel 13), Bel a'r Ddraig (Daniel 14), a Gweddi Manase.
Er i Sant Sierôm fwrw amheuaeth ar ddilysrwydd ambell destun apocryffaidd, cafodd y mwyafrif o'r rheiny eu cynnwys yn ei gyfieithiad Lladin o'r Hen Destament, y Fwlgat. Yn 1546, dyfarnwyd holl gynnwys y Fwlgat yn ganonaidd gan Gyngor Trent, ac eithrio Trydydd a Phedwerydd Llyfrau'r Macabeaid, Gweddi Manase, Salm 151, a Llyfr Cyntaf ac Ail Lyfr Esdras. Yn eglwysi'r dwyrain, gwrthodwyd pob un o Apocryffa'r Hen Destament ar wahân i Tobit, Jwdith, Doethineb Solomon, ac Eclesiasticus.
Beiblau Cymraeg
golyguYm Meibl 1588, cyfieithiad yr Esgob William Morgan, cynhwysir 14 o lyfrau'r Apocryffa mewn adran ryngdestamentaidd, hynny yw wedi eu hargraffu rhwng yr Hen Destament a'r Testament Newydd. Y rhain yw 1 Esdras, 2 Esdras, Tobit, Judith, Rhan arall o Esther, Doethineb, Ecclesiasticus, Baruch ac Epistol Jeremi, Cân y Tri Llanc, Susanna, Bel a'r Ddraig, Gweddi Manasses, 1 Maccabeaid, a 2 Maccabeaid. Mae Apocryffa'r Beibl Cymraeg Newydd yn cynnwys yr holl destunau hyn ond yn cyfri Baruch ac Epistol Jeremi yn ddau lyfr ar wahân, gan ddilyn trefn Beibl Saesneg y Brenin Iago.
Ffugysgrifeniadau
golygu- Prif: Ffugysgrifeniadau
Rhoddir yr enw ffugysgrifeniadau (Groeg: pseudepigraphos) ar y testunau nas cynhwysir yn y canon Beiblaidd gan unrhyw o'r prif enwadau, na chan yr Iddewon. Ymhlith y gweithiau hyn mae Llyfr y Jiwbilïau, Salmau Solomon, Dyrchafael Eseia, Dyrchafael Moses, Pedwerydd Llyfr y Macabeaid, Llyfr Enoc, Pedwerydd Llyfr Esra, Ystoria Adaf ac Efa y Wreic, Apocalyps Baruch, Llythyr Aristeas, a Thestamentau'r Deuddeg Patriarch. Priodolir y rhain i gyd i awduron a sonir amdanynt yng nghanon yr Hen Destament, ac maent yn dyddio o'r cyfnod rhyngdestamentaidd, a ni cheir ffynonellau Hebraeg nac Aramaeg gwreiddiol ohonynt. Cafwyd hyd i ragor o ffugysgrifeniadau, yn Hebraeg ac Aramaeg, yn Sgroliau'r Môr Marw.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ isganonaidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2018.
- ↑ ailganonaidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2018.
- ↑ Heinrich Graetz, Kohelet oder der Salomonische Prediger: Ubersetzt und Kritisch Erläutert (Leipzig, 1871), tt. 147–173.
- ↑ Jack P. Lewis, "Jamnia Revisited" yn The Canon Debate, golygwyd gan L. M. McDonald a J. A. Sanders (Peabody, Massachusetts: Hendrickson, 2002), tt. 146–162.