Apollodorus
Ysgolhaig, hanesydd, mytholegydd a gramadegwr o Roeg oedd Apollodorus (Groeg: Ἀπολλόδωρος), a elwir weithiau yn Apollodorus o Athen (tua 180 CC - ar ôl 120 CC).
Apollodorus | |
---|---|
Ganwyd | c. 180 CC Athen yr henfyd |
Bu farw | 120 CC Athen yr henfyd |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | hanesydd, bardd, ysgrifennwr, pensaer, mythograffydd, athronydd, ieithegydd |
Adnabyddus am | Chronicle |
- Mae Apollodorus yn enw Groeg cyffredin. Erthygl am yr hanesydd a mytholegydd yw hon. Am y pensaer Syriaidd o dras Roegaidd gweler Apollodorus o Ddamascus. Am bobl eraill o'r un enw gweler Apollodorus (gwahaniaethu).
- Am waith y "Ffug-Apollodorus" ar fytholeg Roegaidd, gweler Bibliotheke.
Roedd yn fab i'r ysgolhaig Groegaidd Asclepiades. Roedd yn ddisgybl i Diogenes o Fabilon, Panaetius y Stoïg, a'r grammadegwr Aristarchus o Samothrace. Ar ôl gweithio am gyfnod yn ninas Alexandria bu rhaid iddo ffoi oddi yno tua'r flwyddyn 146 CC, efallai i ddinas Pergamum, ac oddi yno i Athen. Am gyfnod credid mai ef oedd awdur y Bibliotheca, y llyfr enwocaf ar fytholeg y Groegiaid, ond gwyddys erbyn hyn ei fod yn waith diweddarach.
Gwaith llenyddol
golygu- Cronicl (Χρονικά), hanes Groeg ar gân o gwymp Caerdroea yn y 12g CC hyd tua 143 CC, wedi ei sylfaenu ar weithiau cynharach gan Eratosthenes o Cyrene. Cysegrir y gerdd i Attalus II Philadelphus.
- Am y Duwiau (Περι θεων), hanes crefydd y Groegiaid a fu'n ffynhonnell bwysig i awduron diweddarach, e.e. Philodemus.
- Traethawd mewn 12 llyfr ar Gatalog y Llongau yn Iliad Homer, sy'n dilyn gwaith Eratosthenes o Cyrene a Demetrius o Scepsis, ac sy'n astudiaeth o ddaearyddiaeth Homer dros y canrifoedd. Dibynnodd Strabo am hyn am lyfrau 8-10 ei Geographica.
- Mae gweithiau eraill a gysylltir ag ef yn cynnwys gwaith ar etymoleg ac astudiaethau o waith y beirdd Epicharmus o Cos a Sophron.
- Gwyddom am nifer o weithiau eraill gan Apollodorus sydd heb oroesi.
- Am ei fod mor enwog yn yr Henfyd cafodd sawl gwaith diweddarach ei dadogi arno. Ef yw awdur traddodiadol y gwaith enwocaf ar fytholeg y Groegiaid a adnabyddir fel y Bibliotheca, neu'r Llyfrgell, ond gwyddom erbyn hyn na ellir fod yn waith dilys Apollodorus am ei fod yn dyfynnu awduron a ysgrifennai rhai canrifoedd ar ôl ei farwolaeth. Am hynny, cyfeirir at awdur y Bibliotheca heddiw fel y Ffug-Apollodorus.
Cyfeiriadau
golygu- Simon Hornblower (gol.), The Oxford Classical Dictionary (Rhydychen, 1996)