Ar Drywydd Stori
Hunangofiant gan Gwyn Griffiths yw Ar Drywydd Stori: Atgofion Newyddiadurwr o Geredigion a gyhoeddwyd yn 2015 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Gwyn Griffiths |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 29/04/2015 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781784611231 |
Hunangofiant darllenadwy Gwyn Griffiths, awdur a newyddiadurwr a fagwyd yn Nhregaron, un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gweithiodd i fudiad Urdd Gobaith Cymru, i bapur newydd wythnosol Y Cymro ac i BBC Cymru fel swyddog y wasg, pennaeth y wasg a newyddiadurwr yn y cyfryngau newydd a phrofodd newidiadau mawr ym mywyd Cymru, y Gymraeg a'r cyfryngau. Ceir 56 llun.
Mab tyddyn o gyrion Cors Caron sydd bellach yn byw ym Mhontypridd. Mae Gwyn Griffiths yn awdur a newyddiadurwr a'i hunangofiant yn hanes cyfnod dyddiau da a heddychlon, o gyni amaethyddol a ddilynwyd gan newidiadau technolegol mawr. Ysgrifennodd nifer o lyfrau a bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgronau a phapurau Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg. Gwnaeth gysylltiadau tramor yn arbennig gyda Llydaw. Yn ogystal ag ysgrifennu cyfrolau am Lydaw sefydlodd amgueddfa yn Roscoff i'r gwerthwr winwns enwog Sioni Winwns.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017